Agor y brif ddewislen

Astudiaeth wyddonol o wyneb y Ddaear yw daearyddiaeth, yn ogystal ag asturdiaeth o'i nodweddion, ei thrigolion a ffenomenâu amrywiol. Y gair Groeg am y maes hwn oedd γεωγραφία ('geograffia', sef 'disgrifiad o'r Ddaear') ac fe'i defnyddiwyd yn gyntaf gan Eratosthenes (276–194 BC). Yn grynno, rhennir y pwnc yn ddwy ran, sef: nodweddion ffisegol, naturiol (daearyddiaeth ffisegol) a daearyddiaeth ddynol.[1][2][3][4]

Gwyddorau daear
Gwyddorau daear

Bioamrywiaeth
Cartograffeg
Cloddio
Daeareg
Daearyddiaeth
Defnydd tir
Demograffeg
Ecoleg
Eigioneg
Geocemeg
Hanes daearegol
Hydroleg
Meteoroleg
Morffoleg
Mwynyddiaeth
Paleontoleg
Petroleg
Rhewlifeg
Seismoleg

Mae daearyddiaeth fodern yn ddisgyblaeth eang sy'n ceisio deall gwahanol rannau o'r Ddaear (llefydd, cyfandiroedd, gwledydd), sut y daethant i fodolaeth (sy'n cynnwys elfennau o ddaeareg), ffenomenau naturiol a dynol a'r berthynas rhwng dyn a'r tir.

Cynnwys

Canghenau DaearyddiaethGolygu

Daearyddiaeth ffisegolGolygu

Prif faes daearyddiaeth ffisegol yw gwyddor Daear. Mae'n ceisio deall y lithosffer, yr hydrosffer, yr atmosffer, y pedosffer a phatrymau fflora a ffawna (sef y bioseffer). Gellir dosbarthu daearyddiaeth ffisegol fel hyn:

       
Bioddaearyddiaeth Hinsawdd a Tywydd Moroedd ac Arfordir Amgylchedd
       
Geodedd Daeareg a Geomorffoleg Rhewlifeg Hydroleg a Hydrograffeg
       
Ecoleg tirffurfiau Eigioneg Priddeg Paleoddaearyddiaeth
       
Gwyddoniaeth cwaternaidd Cartograffeg Mynyddoedd Cynhesu byd eang

Y termau arferol am Ddaearyddiaeth ffisegol yn Saesneg yw: Physical geography, geosystems a physiography.[5][6]

Daearyddiaeth ddynolGolygu

Prif erthygl: Daearyddiaeth ddynol

Mae daearyddiaeth ddynol yn cael ei chyfri'n un o'r 'gwyddorau cymdeithas' ac yn cynnwys astudiaeth o'r Ddaear, ei phobl a'u cymuned, eu diwylliant, economeg a sut y mae pobl yn parchu neu'n amharchu eu hamgylchedd.

Mae'n cynnwys agweddau dynol, gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol, ac economaidd, sef yr hyn a elwir yn wyddorau cymdeithas. Er nad prif canolbwynt daearyddiaeth ddynol yw tirwedd ffisegol y Ddaear (gwelwch daearyddiaeth ffisegol) mae bron yn amhosib i drafod daearyddiaeth ddynol heb gyfeirio at y tirwedd ffisegol ble mae gweithgareddau dynol yn digwydd, ac mae daearyddiaeth amgylcheddol yn ymddangos fel cyswllt pwysig rhwng y ddau.

       
Diwylliant Daearyddiaeth datblygu Economeg Iechyd
       
Daearyddiaeth hanesyddol Gwleidyddiaeth Poblogaeth a Demograffeg Crefydd
       
Cymdeithaseg Cludiant Twristiaeth Aneddiad a Trefoli
       
Amaethyddiaeth Diwydiant Ynni Llygredd

Daearyddwyr nodedigGolygu


CyfandiroeddGolygu

Gweler hefydGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am daearyddiaeth
yn Wiciadur.
  1. "Geography". The American Heritage Dictionary/ of the English Language; y Bedwaredd Gyfrol. Houghton Mifflin Company. Cyrchwyd 9 Hydref 2006.
  2. http://web.clas.ufl.edu/users/morgans/lecture_2.prn.pdf
  3. "1(b). Elements of Geography". Physicalgeography.net. Cyrchwyd 2009-04-17.
  4. Bonnett, Alastair What is Geography? Llundain, Sage, 2008
  5. Fundamentals of Physical Geography, 2nd Edition, by M. Pidwirny, 2006
  6. Pidwirny, Michael; Jones, Scott (1999–2015). "Physical Geography".