Mae Alys Conran (geni 1980) yn awdur Cymreig. Enillodd ei nofel gyntaf Pigeon Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2017.

Alys Conran
Ganwyd1980 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ganwyd Alys ym Mangor yn ferch i'r Bardd Cymreig Tony Conran a Lesley Bowen ei wraig.[1]

Mae ffuglen, barddoniaeth a chyfieithiadau Alys wedi ennill sawl gwobr iddi, gan gynnwys y Bristol Short Story Prize a'r Manchester Fiction Prize. Ar ôl astudio Llenyddiaeth Saesneg yng Nghaeredin cwblhaodd radd MA mewn ysgrifennu creadigol ym Manceinion. Mae hefyd wedi cynnal prosiectau oedd yn rhoi cyfle i garfanau o'r boblogaeth yng Ngogledd Cymru, nad ydynt yn draddodiadol yn ymwneud ag ysgrifennu creadigol a darllen, i wneud hynny.[2]

Cyhoeddwyd nofel gyntaf Conran, Pigeon, gan Parthian Books yn 2016. Cyhoeddwyd addasiad Cymraeg gan Siân Northey, Pijin, yr un pryd â’r wreiddiol Saesneg, gan ei gwneud y nofel ffuglen gyntaf i gael ei chyhoeddi ar yr un pryd yn Saesneg a Chymraeg [3]. Yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru 2017,[4] enillodd fersiwn Saesneg Pigeon y wobr gyffredinol am Lyfr y Flwyddyn Cymru, yn ogystal â Gwobr Dewis y Bobl, Adolygiad Celfyddydau Cymru a Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies. Roedd hefyd ar restr fer Gwobr Dylan Thomas ac ar restr fer Gwobr Nofel Gyntaf Dewis yr Awdur. Yn 2018, codwyd ail nofel Conran Dignity gan Weidenfeld & Nicolson, a'i chyhoeddi ym mis Ebrill 2019

Cyfeiriadau golygu

  1. Independent 17 Mawrth 2013 Meic Stephens: Anthony Conran: Acclaimed poet and translator adalwyd 5 Tachwedd 2019
  2. Gwales -gwybodaeth am awduron
  3. "Alys Conran". www.edbookfest.co.uk. Cyrchwyd 2019-11-05.
  4. "Wales Book of the Year winner revealed". 2017-11-13. Cyrchwyd 2019-11-05.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Alys Conran ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.