Tony Conran
bardd, cyfieithydd (1931-2013)
Bardd a chyfieithydd o Gymro oedd Anthony Edward Marcell "Tony" Conran (7 Ebrill 1931 – 14 Ionawr 2013)[1] oedd yn ysgrifennu yn y Saesneg a'r Gymraeg.
Tony Conran | |
---|---|
Ganwyd | Anthony Edward Marcell Conran 7 Ebrill 1931 India |
Bu farw | 14 Ionawr 2013 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, cyfieithydd |
Ganwyd yn Mengal, India, ond mudodd y teulu i Fae Colwyn ac yno ac ym Mhrifysgol Cymru, Bangor y cafodd ei addysg. Fe'i penodwyd yn gymrawd ymchwil a thiwtor yn Adran Saesneg y coleg ym 1957. Bu yno tan ei ymddeoliad ym 1982.[2]
Fe gyfieithoedd y cerddi Cymraeg ar gyfer y gyfrol y bu yn gyfrifol amdanni The Penguin Book of Welsh Verse (1967).
Cafodd ei eni gyda pharlys yr ymennydd.[1]
Roedd yn dad i'r awdur Alys Conran.
Llyfryddiaeth
golygu- Blodeuwedd (1988)
- Castles (1993)
- All Hallows (1995)
- A Gwynedd Symphony (1996)
- What Brings You Here So Late? (2008)
Ffynonellau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Stephens, Meic (17 Mawrth 2013). Anthony Conran: Acclaimed poet and translator. The Independent. Adalwyd ar 17 Gorffennaf 2013.
- ↑ Gwyn Thomas, Barn, tt. 599–600 (2012/2013).