Ambell i Gân (cân werin)

Cân werin draddodiadol yw Ambell i gân sy'n sôn am bwer caneuon i godi calon person ac i gario beichiau bywyd. Fel y rhan fwyaf o ganeuon gwerin, ni wyddys pwy yw'r awdur. Yn 1981 roedd y gân yn dal i gael ei chanu ar Ynys Môn. Yno, mae'r pennill olaf ychydig yn wahanol i'r arfer, ac arferid canu: 'A phan dry'r bydysawd yn olwyn o dân / Bryd hynny caf ganu nid ambell i gân.'

Ambell i Gân
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata


Geiriau

golygu

Ambell i gân a geidw fy mron
Rhag suddo i lawr dan aml i don,
Mae’r awen mor siriol, mor swynol, mor lân,
Diolchaf o galon am ambell i gân.

Ambell i gân dry dwyllwch y nos
Mor olau a’r dydd, mor siriol â’r rhos,
Caddugawl anobaith gymylau fel gwlân
A droant os gallaf gael ambell i gân.

Ambell i gân rydd nerth yn y fraich
A’r ysgwydd i gario aml i faich,
A grym anawsterau falurir yn lân
Os gallaf gael canu ambell i gân.

Ambell i gân a gaf yn y byd,
Ond teithiaf i wlad sydd yn ganu i gyd,
Ac wedi i’m adael yr anial yn lân,
Gobeithiaf gael canu nid ambell gân.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ambell i Gân - learn Welsh songs with trac | Songs". songs.trac.wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-01. Cyrchwyd 2018-08-16.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato