Mae pylni'r golwg neu amblyopia (Saesneg), a elwir hefyd yn llygad diog, yn anhwylder golwg, ac fe achosir gan ddiffyg cydweithrediad rhwng y llygad a'r ymennydd. Arweinir at ostyngiad mewn golwg, a hynny mewn llygad sydd fel arall yn ymddangos yn arferol. Dyma'r achos mwyaf cyffredin o golled golwg mewn un llygad ymhlith plant ac oedolion iau.[1]

Amblyopia
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathclefyd y llygad, nam ar y golwg, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gall amblyopia gael ei achosi gan unrhyw gyflwr sy'n ymyrryd â'r broses ffocysu yn ystod plentyndod cynnar.[2] Mae'n bosib iddo hanu o ddiffyg cyfluniad yn y llygaid; siâp llygad afreolaidd, lle bo' ffocysu'n anoddach; gwahaniaethau golwg, hynny yw bod un llygad â golwg byr a'r naill â golwg hir; neu gymylu yn lens y llygad. Wedi i'r achos sylfaenol gael ei ddatrys, nid yw golwg y dioddefwr yn adfer ar unwaith gan fod mecanwaith y cyflwr yn cynnwys yr ymennydd yn ogystal.[3] Gall fod yn anodd canfod amblyopia, felly argymhellir cynnal profion llygaid ar gyfer pob plentyn o bedair i bump oed.[4]

Wrth ganfod y cyflwr yn gynnar mae modd ei drin yn fwy effeithiol. Yn achos rhai plant nid oes angen triniaeth helaethach na gwisgo sbectol llygaid.[5] Os nad yw'r dull hynny'n ddigonol, gweithredir triniaethau sy'n gorfodi'r plentyn i ddefnyddio'r llygad gwannach. Gwneir hynny naill ai drwy wisgo clwt llygad neu rhoddir atropin yn y llygad cryfach. Heb driniaeth, mae amblyopia fel arfer yn parhau i gyfnod oedolyn. Ni cheir ymchwil na thystiolaeth safonol ynghylch triniaethau ar gyfer oedolion.

Mae amblyopia'n dechrau erbyn bod rhywun yn bump oed. Effeithir y cyflwr oddeutu 1-5% o'r boblogaeth hŷn.[6] Er bod triniaeth yn gwella golwg, nid yw fel arfer yn ei adfer yn llwyr yn y llygad ag effeithir. Disgrifiwyd amblyopia am y tro cyntaf yn y 1600au.[7] Gall y cyflwr wneud unigolyn yn anghymwys i fod yn beilot neu swyddog yn yr heddlu. Mae'r gair amblyopia yn dod o ἀμβλύς (amblys yn y Roeg) sy'n golygu "di-awch" a ὤψ ōps sy'n golygu "golwg".[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Facts About Amblyopia". National Eye Institute. Medi 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Schwartz, editor, M. William (2002). The 5-minute pediatric consult (arg. 3rd). Philadelphia: Lippincott Williams & Wilkins. t. 110. ISBN 9780781735391. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Medi 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: extra text: authors list (link)
  3. Levi, D. (2013). "Linking assumptions in amblyopia.". Visual neuroscience 30 (5–6): 277–287. doi:10.1017/S0952523813000023. PMID 23879956.
  4. Jefferis, JM; Connor, AJ; Clarke, MP (12 November 2015). "Amblyopia.". BMJ (Clinical research ed.) 351: h5811. doi:10.1136/bmj.h5811. PMID 26563241.
  5. Maconachie, GD; Gottlob, I (December 2015). "The challenges of amblyopia treatment.". Biomedical Journal 38 (6): 510–6. doi:10.1016/j.bj.2015.06.001. PMID 27013450.
  6. Webber, AL; Wood, Joanne (2005). "Amblyopia: Prevalence, Natural History, Functional Effects and Treatment". Clinical and Experimental Optometry 88 (6): 365–375. doi:10.1111/j.1444-0938.2005.tb05102.x. PMID 16329744. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 January 2012. http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/j.1444-0938.2005.tb05102.x/pdf.
  7. "Chapter 2 - Visual development in childhood". Visual Impairments and Developmental Disorders: From diagnosis to rehabilitation Mariani Foundation Paediatric Neurology. John Libbey Eurotext. 2016. ISBN 9782742014828. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Medi 2017. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "Online Etymology Dictionary". www.etymonline.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Medi 2017. Cyrchwyd 5 Mai 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)