Americanwyr Iddewig

Y rhan o boblogaeth Unol Daleithiau America sydd yn Iddewon ethnig, yn gredinwyr Iddewiaeth, neu fel arfer yn uniaethu â'r genedl neu ddiwylliant Iddewig yw'r Americanwyr Iddewig neu Iddewon Americanaidd.[1] Heddiw, Ashcenasim ydy'r gymuned Iddewig yn yr Unol Daleithiau yn bennaf, sydd yn disgyn o'r Iddewon ar wasgar a ymfudasant o Ganolbarth a Dwyrain Ewrop ac sydd yn cyfri am 90–95% o boblogaeth yr Americanwyr Iddewig.[2][3] Ganed y mwyafrif o Ashcenasim Americanaidd yn yr Unol Daleithiau, a llai a llai ohonynt yn fewnfudwyr. Yn ystod yr oes drefedigaethol, cyn i'r Ashcenasim ymfudo ar raddfa enfawr, Iddewon o Benrhyn Iberia oedd yn cyfri am y rhan fwyaf o boblogaeth Iddewig yr Unol Daleithiau.

Map o boblogaeth yr Americanwyr Iddewig yn nechrau'r 21g yn ôl talaith.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Sheskin, Ira M. (2000). "American Jews". In McKee, Jesse O. (gol.). Ethnicity in Contemporary America: A Geographical Appraisal. Lanham, Md.: Rowman & Littlefield. t. 227. ISBN 978-0-7425-0034-1. [The 1990 National Jewish Population Survey] showed that only five percent of American Jews consider being Jewish solely in terms of being a member of a religious group. Thus, the vast majority of American Jews view themselves as members of an ethnic group and/or a cultural group, and/or a nationality.
  2. "More Ashkenazi Jews Have Gene Defect that Raises Inherited Breast Cancer Risk". The Oncologist 1 (5): 335. 1996. http://theoncologist.alphamedpress.org/content/1/5/335.full. Adalwyd 8 November 2013.
  3. "First genetic mutation for colorectal cancer identified in Ashkenazi Jews". The Gazette. Newfoundland. Cyrchwyd 10 September 2013.

Darllen pellach golygu

  • A. Hertzberg, The Jews in America (Efrog Newydd: Simon & Schuster, 1989).
  • H. Sachar, A History of the Jews in America (Efrog Newydd: Random House. 1992).
  • E. Shapiro, A Time for Healing (Baltimore: The Johns Hopkins University Press, 1992).