Iddewiaeth
Crefydd undduwiaeth gymharol fychan yw Iddewiaeth, â thua 14 miliwn o ddilynwyr (Iddewon) byd-eang. Daw'r gair Iddewiaeth o'r gair Groeg Ιουδαϊσμός a ddaw o'r Hebraeg יהודה, Iehŵda. Hi yw crefydd y bobl Iddewig. Sylfaen y grefydd yw'r llyfrau o'r Beibl Hebraeg, sef y Tanach, sy'n cynnwys llyfrau'r Torah, Nevi'im a Ketuvim. Mae'r Talmud yn esboniad ar y llyfrau hyn.
Enghraifft o'r canlynol | crefydd, crefydd ethnig, ffordd o fyw |
---|---|
Math | crefydd undduwiol, crefyddau Abrahamig |
Dechrau/Sefydlu | c. 5 g CC |
Lleoliad | ledled y byd |
Yn cynnwys | mudiad Iddewig |
Sylfaenydd | Abraham |
Enw brodorol | יַהֲדוּת |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn 2007, amcangyfrifwyd poblogaeth Iddewig y byd yn 13.2 miliwn, gyda 41% ohonynt yn byw yn Israel a'r 59% arall ar wasgar. Sylwer nad ydy Iddewiaeth yr un peth â Seioniaeth, mudiad Iddewig y gwrthodir ei syniadaeth gan nifer o Iddewon, e.e. y Neturei Karta.
Yn ôl traddodiad, mae'r hanes Iddewig yn dechrau gyda'r Cyfamod rhwng Duw ac Abraham, sef patriarch a chyndad y bobl Iddewig, tua 2000 CC yn ôl y gronoleg Feiblaidd draddodiadol. Iddewiaeth yw un o'r crefyddau hynaf mewn bodolaeth heddiw. Mae athrawiaethau a hanes Iddewiaeth wedi dylanwadu'n fawr ar grefyddau eraill gan greu'r sylfaen ar gyfer y crefyddau Abrahamig mawr eraill, sef Cristnogaeth ac Islam.
Mae Iddewiaeth yn wahanol iawn i nifer o grefyddau cyfoes mor bell â ni welir awdurdod yn un person neu grŵp, ond yn hytrach mewn testunau sanctaidd, traddodiadau a rabbïau addysgedig sy'n dehongli'r testunau a chyfreithiau. Drwy'r oesoedd mae Iddewiaeth wedi glynu at nifer o egwyddorion crefyddol, y pwysicaf ohonynt yw'r cysyniad o un Duw hollalluog a hollwybodol a greodd y bydysawd ac sy'n parhau i'w reoli. Yn ôl cred Iddewig draddodiadol, gwnaeth y Duw a greodd y byd gadarnhau cyfamod gyda'r Israeliaid drwy Moses ar Fynydd Sinai yn ffurf y Torah ysgrifenedig ac ar lafar. Credant taw disgynyddion yr Israeliaid yw holl Iddewon y byd. Mae Iddewiaeth ymarferol draddodiadol yn seiliedig ar yr astudiaeth a chadwraeth rheolau a gorchmynion Duw fel y cawsant eu hysgrifennu yn y Torah a'u hesbonio yn y Talmud.