Amgueddfa'r Ashmolean

amgueddfa yn Rhydychen

Amgueddfa'r Ashmolean (enw Saesneg llawn: Ashmolean Museum of Art and Archaeology) ar Stryd Beaumont, Rhydychen, Lloegr, yw'r amgueddfa brifysgol hynaf yn y byd. Mae'n gartref i gasgliad o drysorau archaeolegol a lluniau o gyfnod y Dadeni Eidalaidd. Cyflwynwyd casgliad crai'r amgueddfa i Brifysgol Rhydychen yn 1675 gan Elias Ashmole (16171692), a chafodd ei arddangos i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn 1683. Codwyd adeilad newydd-glasurol hardd ar y safle yn 1845 gan C. R. Cockerell.

Amgueddfa'r Ashmolean
Mathoriel gelf, amgueddfa brifysgol, amgueddfa Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlElias Ashmole Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1685 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1683 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPrifysgol Rhydychen, The Taylor Institute, The Ashmolean Museum, and 41 Beaumont Street, Gardens, Libraries and Museums of the University of Oxford Edit this on Wikidata
LleoliadBeaumont Street Edit this on Wikidata
SirDinas Rhydychen Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.7556°N 1.2606°W Edit this on Wikidata
Cod OSSP5113106548 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganElias Ashmole Edit this on Wikidata
Manylion

Yr archaeolegydd Arthur Evans oedd curadur yr amgueddfa o 1884 hyd 1908. Cedwir ei gasgliad o wrthrychau Minoaidd yno, sydd un o'r rhai gorau y tu allan i Wlad Groeg.

Eginyn erthygl sydd uchod am Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.