Amgueddfa Dinbych
Amgueddfa cymunedol yw Amgueddfa Dinbych sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr o Hen Lys Ynadon Dinbych. Tra bod amgueddfa wedi bod mewn bodolaeth yn y dref ers 1989, fel rhan o'r llyfrgell, caewyd ef yn 2004. Yn y blynyddoedd ers hynny bu ymgyrch i'w ail-sefydlu ac yn Rhagfyr 2013 prynnodd Cyngor Tref Dinbych yr hen Lys Ynadon. Yn 2014 roedd yr adeilad wrthi'n cael ei addasu yn amgueddfa gyhoeddus.
Math | amgueddfa leol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Dinbych |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 73 metr |
Cyfesurynnau | 53.187094°N 3.41701°W |
Cod post | LL16 3BW |
Cefndir
golyguHanes
golyguYm 1972 ffurfiwyd Cymdeithas Hanes Lleol ac Amgueddfa yn Ninbych. Yn ystod y saith degau a blynyddoedd cynnar yr wyth degau cafwyd ceisiadau ganddynt hwy ac eraill i annog yr awdurdodau lleol ar y pryd i gydnabod bod angen amgueddfa. Yn ystod yr wyth degau, dechreuodd yr hen Gyngor Sir Clwyd ddangos diddordeb yn natblygiad amgueddfeydd (ac orielau) fel rhan annatod o gyfleusterau llyfrgelloedd newydd. Awgrymwyd nifer o safleoedd a phenodwyd yr hen Neuadd y Sir yn Llyfrgell, Amgueddfa ac Oriel ym 1989.
Ym marn y bobl leol, roedd yr amgueddfa yma'n hollol annigonol.
Methodd yr amgueddfa â chyflawni’r meini prawf ar gyfer ei chofrestru’n amgueddfa (Cyfnod 2) gyda’r canlyniad iddi gael ei dileu oddi ar Gofrestr yr Amgueddfeydd ym mis Chwefror 2004 yn dilyn ymgynghori rhwng y corff asesu a Chyngor Sir Ddinbych. Yr adeg honno, roedd y Cyngor wedi ymrwymo i adfer statws cofrestredig ar gyfer Amgueddfa Dinbych a chomisiynodd astudiaeth ym mis Gorffennaf 2004 er mwyn gwneud argymhellion i gyflawni hyn. Ni weithredwyd yr argymhellion a pheidiodd Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych ag arddangos eu heitemau yn 2005. Yn sgil hyn ffurfwyd Grŵp Amgueddfa Dinbych yn 2006 er mwyn ymgyrchu i sefydlu amgueddfa gymunedol yn Ninbych.
Comisiynwyd astudiaeth dichonoldeb gan Gadwyn Clwyd ar ran Grŵp Amgueddfa Dinbych er mwyn canfod a fyddai sefydlu amgueddfa yn Ninbych yn ddichonol o safbwynt ymarferol ac economaidd. Cynhaliwyd yr astudiaeth rhwng Hydref 2011 a Mehefin 2012 gan John Marjoram, ymgynghorydd amgueddfeydd a threftadaeth, yn gweithio gyda Geraint Roberts (B3Architects) a Simon Hughes (SPP Projects Cyf – Syrfewyr Siartredig).
Aseswyd nifer o leoliadau posibl yn y dref, yn erbyn rhestr o feini prawf, er mwyn ffurfio amgueddfa lwyddiannus. Rhoddwyd ystyriaeth drylwyr i dri adeilad - Gwesty’r Goron, Sefydliad yr Eglwys a'r hen Lys Ynadon. Penderfynwyd ma'r Llys Ynadon, Lôn Goch oedd yn cynnig y cyfle gorau.