Dinbych

tref yng Nghymru

Tref hanesyddol a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Dinbych (Saesneg: Denbigh). "Caer fechan" yw ystyr ei enw ac ymddengys gyntaf mewn dogfen yn 1211 gyda'r silafiad: "Dunbeig" ac yna "Tynbey" yn 1230 a "Dymbech" yn 1304-5. Ceir Dinbych y Pysgod yn ne Cymru hefyd.

Dinbych
Mathcymuned, tref Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,670 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolClwyd Edit this on Wikidata
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1872°N 3.4157°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000151 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ055665 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUGill German (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Am ystyron eraill gweler Dinbych (gwahaniaethu).

Yn 1290 derbyniwyd Dinbych fel bwrdeistref, a chafodd y dref gyfan ei chynnwys o fewn muriau allanol y castell. Pan gododd Madog ap Llywelyn a'i wŷr rhwng 1294 a 1295, roedd y dref yng nghanol y gwrthryfel. Llwyddodd Madog i gipio'r castell ym mis hydref 1294 a phan ddaeth catrawd o filwyr Seisnig i'w ailfeddiannu, fe drechedwyd y rheiny hefyd. Ond er hynny, cipiodd Edward I y castell ym mis Rhagfyr.

Yn 1400, ymledodd gwreichion gwrthryfel Glyn Dŵr ar draws y dyffryn ac fel sawl tref arall yn y cyffiniau, llosgwyd y rhannau Seisnig o'r dref i'r llawr, cyn i'r gwrthryfelwyr fynd yn eu blaen i ymosod ar Ruddlan.

Dinbych, 18fed ganrif

Tua thri-chwarter milltir i'r de o'r castell presennol y sefydlwyd y gaer yn wreiddiol a hynny ar dir Llywelyn ap Iorwerth a roddodd yn anrheg i'w ferch Gwenllian ac fe elwyd am flynyddoedd fel 'Llys Gwenllian'. (Cyfeirnod OS: SJ06SE1).Yn yr'Hen Ddinbych' codwyd Castell mwnt a beili yno cyn [1][2] yn 1283 y rhoddodd Edward 1af orchymun i godi'r castell presennol.

Enwogion

golygu

Eisteddfod Genedlaethol

golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych ym 1882, 1939 a 2001. Caiff y nesaf ei gynnal ym mIs Awst 2013. Am wybodaeth bellach gweler:

Adeiladau Cofrestredig a henebion

golygu

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Dinbych (pob oed) (8,986)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dinbych) (3,057)
  
35.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dinbych) (6555)
  
72.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Dinbych) (1,325)
  
34.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dictionary of Place-names gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan; Gwasg Gomer, 2008
  2. [1] Mapiau a lluniau lloeren o'r hen lys
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolen allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato