Lleolir Amgueddfa Genedlaethol yr Alban yng Nghaeredin. Mae'n o rwydwaith Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban ac mae mynediad am ddim. Fe'i sefydlwyd yn 2006 pan unwyd yr Amgueddfa Frenhinol ag Amgueddfa'r Alban; roedd y naill yn dyddio'n ôl i oes Victoria ac ymdrin â'r gwyddoniaethau a diwylliannau hanesyddol y byd, a'r llall mewn adeilad modern ac yn ymdrin ag archeoleg a hanes yr Alban.