Y rhan ogleddol o ynys fwyaf Ynysoedd Allanol Heledd yw Leòdhas (Saesneg:Lewis). Gelwir y rhan ddeheuol yn Na Hearadh (Harris). Mae gan yr ynys amrywiaeth o fywyd gwyllt ac mae'n un o gadarnleoedd iaith Gaeleg yr Alban, gyda thua 50% o'r boblogaeth yn siarad Gaeleg yn rhugl a thua 70% a rhyw wybodaeth o'r iaith. Presbyteriaeth yw'r brif grefydd, ac mae cadw'r Sul yn parhau i fod yn bwysig yma.

Leòdhas
Mathgorynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth18,500 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd1,770 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau58.2°N 6.6°W Edit this on Wikidata
Cod OSNB426340 Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Ynys Leòdhas
Llan Lochs, ar y briffordd rhwng Steòrnabhagh a Na Hearadh
Creigiau ar draeth Tolastadh bho Thuath

Yn 2001 roedd poblogaeth Leòdhas yn 16,872. Prifddinas yr ynys yw Steòrnabhagh (Saesneg: Stornoway), sydd a chysylltiad fferi ag Ullapool ar y tir mawr. Mae maes awyr bychan ger pentref Melbost, rhyw ddwy filltir i ffwrdd. Ar un adeg roedd dylanwad y Llychlynwyr yn gryf yma, a daw enw'r ynys o Ljóðhús yn Hen Norwyeg. Maint Leòdhas yw 683 milltir sgwâr[1]. Mae’n cynnwys 404,184 erw o dir, 24863 erw o ddŵr mewnol, 230 erw o forfa, 7,775 erwo arfordir a 150 erw o ddŵr llanwol.

Ceir nifer o henebion diddorol ar yr ynys; yr enwocaf efallai yw cylch cerrig Calanais (Callanish) a'r broch yn Dun Carloway. Mai sawl cylch hŷn yn ymyl cylch enwocaf Calanais. Mae’r ynys hefyd yn nodedig am y bythynnod traddodiadol a elwir yn Dai Duon, gydag enghreifftiau yn Arnol a Garenin. Darganfuwyd sawl tŷ o’r Oes Haearn yn ymyl traeth Bostadh ar ôl storom ym 1993, datguddiodd 5 ohonynt gan gloddfa ym 1996. Adeiladwyd copi o dŷ Pictaidd gerllaw ym 1998.[2]

Cyrhaeddodd Llychlynwyr yn ystod y 9g, ac arhosodd rhai, yn priodi pobl leol, a daethant yn gristnogol. Disodlwyd tai crynion gan dai sgwâr, yn ôl y dull llychlynaidd. Daeth yr ynys yn rhan o Frenhiniaeth Mann a’r Ynysoedd, eiddo i Norwy.[3]

Mae gan Leòdhas nifer o draethau nodedig, megis Bostadh, Tolastadh bho Thuath, Uig, Ness, Dalmor, Dalbeag a Valtos.[4]


Cyfeiriadau

golygu
  1. Thompson, Francis (1968) Harris and Lewis. Newton Abbott. David & Charles. Tudalen 15
  2. Guardian, 28 Mehefin 2017
  3. Gwefan awdurdod leol Archifwyd 17 Hydref 2007 yn y Peiriant Wayback
  4. Gwefan isle-of-lewis.com


  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato