Amgueddfa reilffordd yr hen Ghan
Mae Amgueddfa reilffordd yr hen Ghan yn amgueddfa reilffordd yn Alice Springs, Tiriogaeth y Gogledd, Awstralia. Roedd rheilffordd dreftadaeth hefyd, sy wedi cau. Rheolir yr amgueddfa gan Gymdeithas Cludiant Ffordd Hanesyddol.
Hanes
golyguRheilffordd cledrau cul oedd y rheilffordd wreiddiol rhwng Adelaide a Darwin. Agorwyd rheilffordd lled safonol rhwng Adelaide ac Alice Springs ym 1980. Sefydlwyd Cymdeithas gadwriaeth y Ghan ym 1981, yn defnyddio Seidin McDonnell, i’r de o Alice Springs. Rhoddwyd grant o $800,000 ym 1987, ac adeiladwyd gorsaf reilffordd.[1] Trefnwyd prydles gyda Chomisiwn Rheilffyrdd Cenedlaethol Awstralia, ac roedd trenau i dwristiaid hyd at Seidin Ewaninga o Hydref 1988 ymlaen.[2][3][4][5]
Roedd 4 trên yn wythnosol yn y 1990au cynnar [6] gyda locomotif stêm dosbarth W neu locomotif diesel dosbarth NSU Rheilffordd y Gymanwlad, defnyddiwyd yn gynt ar y Ghan.[7][8]
Roedd gan y gymdeithas broblemau cyllidol. Stopiwyd gwasanaethau trên yn 2001. Erbyn 2005, roedd difrod sylweddol i’r locomotifau a cherbydau gan fandaliaid. Roedd atgyfodiad erbyn 2020.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cylchgrawn Cymdeithas Hanesyddol Rheilffyrdd Awstralia, Awst 1987
- ↑ Cylchgrawn Cymdeithas Gadwriaeth y Ghan, Mawrth 1981
- ↑ ’A new life begins for the Old Ghan’ yng nghylchgrawn ‘Railways of Australia’
- ↑ ’Ghan Preservation Society opens’, cylchgrawn ‘Catch Point’ Amgueddfa Reilffordd Genedlaethol, Port Adelaide
- ↑ "All new Old Ghan revival plan". Gwefan Alice Springs News. 13 Tachwedd 2020.
- ↑ "Gwefan Alice Springs News, 16 Chwefror 2005,'New life for Old Ghan?'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-07. Cyrchwyd 2021-12-23.
- ↑ Continental Railway Journal, cyhoeddwyd gan Continental Railway Circle; rhif 82, tud. 356
- ↑ Guide to Australian heritage trains & railway museums gan Robert McKillop, cyhoeddwyd gan Gymdethas Hanesyddol Rheiffyrdd Awstralia, isbn=0909650454, tud.120|
- ↑ Alice Springs News, 13 Tachwedd 2020