Amlosgiad yw hylosgiad, anweddiad, ac ocsidiad corff marw nes ei fod yn gyfansoddion cemegol sylfaenol, fel nwyon, llwch a darnau mwynol sy'n ymddangos fel asgwrn sych. Gall amlosgi gael ei gynnal fel angladd neu ddefod yn dilyn angladd fel dewis amgen i gladdedigaeth y corff mewn arch. Gall gweddillion amlogiad (sydd hefyd yn cael eu galw'n "llwch"), gael eu claddu mewn safleoedd coffa neu fynwentydd, neu gallant gael eu cadw gan berthnasau neu wasgaru mewn gwahanol ffyrdd.

Mewn nifer o wledydd, mae amlosgiad fel arfer yn digwydd mewn amlosgfa. Yn Isgyfandir India, yn arbennig yn India a Nepal, mae dulliau eraill, fel amlosgiad awyr agored, yn cael ei ffafrio.

Mae amlosgiad yn dyddio yn ôl i o leiaf 42,000 o flynyddoedd yn y cofnod archeolegol, gyda'r Fenyw Mungo, gweddillion corff a oedd wedi'i amlosgi yn rhannol a'i ddarganfod yn Llyn Mungo, Awstralia.[1]

William Price, a gyfrannodd at gyfreithloni amlosgiad a chafodd ei amlosgi ei hun yn dilyn ei farwolaeth yn 1893.

Ceir enghreifftiau o amlosgi mewn nifer o ddiwylliannau o amgylch y byd yn y cyfnod cynhanesyddol ac yn yr hen fyd. Rhoddodd Cristnogaeth ddiwedd ar amlosgi mewn nifer o fannau, trwy ddylanwad Iddewiaeth a'r gred yn atgyfodiad y corff ac yn dilyn esiampl claddedigaeth Iesu. Mae anthropolegwyr wedi gallu olrhain lledaeniad Cristnogaeth yn Ewrop trwy ymddangosiad mynwentydd. Erbyn y 5g, roedd yr arfer o losgi cyrff y meirw bron â diflannu o Ewrop.

Y cyntaf i hyrwyddo amlosgiad yn y cyfnod modern oedd y meddyg Syr Thomas Browne yn 1658. Honoretta Brooks Pratt oedd y person cyntaf ar gofnod i gael ei hamlosgi yn Ewrop yn y cyfnod modern. Bu farw 26 Medi 1769 a'i hamlosgi (yn anghyfreithlon) yn y gladdfa ar Sgwâr Hanover yn Llundain.[2]

Ar 13 Ionawr 1874, daeth pobl a oedd yn gefnogol i amlosgiad ynghyd yng nghartref Sir Henry Thompson yn Llunain i ffurfio'r Cremation Society of Great Britain. Yn eu plith, roedd Anthony Trollope, John Everett Millais, George du Maurier, Thomas Spencer Wells, John Tenniel a Shirley Brooks,[3][4]

Cafodd amlosgi ei gyfreithloni yn sgil gweithgareddau'r Cymro William Price. Penderfynodd amlosgi corff ei blentyn cyntaf pan y bu farw yn 1884.[5] Cafodd ei arestio gan yr heddlu am waredu corff yn anghyfreithlon. Llwyddodd Price i ennill y ddadl yn ei achos llys trwy nodi nad oedd y gyfraith yn datgan bod amlosgi yn gyfreithlon nac yn anghyfreithlon. Gosododd yr achos gynsail a arweiniodd, mewn cyfuniad â gweithgareddau'r Cremation Society of Great Britain, at Ddeddf Amlosgi 1902.[6] Roedd y Ddeddf yn gosod gofynion gweithdrefnol cyn y gellid amlosgi, a'i gyfyngu i fannau awdurdodedig.[7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. J.M. Bowler, "Pleistocene salinities and climatic change: Evidence from lakes and lunettes in southeastern Australia", yn Aboriginal Man and Environment in Australia, gol. D.J. Mulvaney a J. Golson (Canberra: Australian National University Press, 1971), tt. 47–65.
  2. Neil R Storey (2013). The Little Book of Death. The History Press. ISBN 9780752492483.
  3. "Cremation in England". ICCFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-06. Cyrchwyd 2019-01-23.
  4. "Introduction". Internet. The Cremation Society of Great Britain. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-03. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2010.
  5. Harris, Tim (16 Medi 2002). "Druid doc with a bee in his bonnet". theage.com.au. Melbourne. Cyrchwyd 3 Chwefror 2007.
  6. "Doctor William Price". Rhondda Cynon Taf Library Service. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-18. Cyrchwyd 1 Mehefin 2012.
  7. "Cremation Act, 1902". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-18. Cyrchwyd 3 Chwefror 2007.