William Price (meddyg)

meddyg Cymreig, derwydd a hyrwyddwr amlosgiad

Siartydd, meddyg ac arloeswr rhyddid personol oedd y Dr. William Price (4 Mawrth 180023 Ionawr 1893), a aned yn Rhydri,[1] ger Llantrisant, Bro Morgannwg (bwrdeisdref sirol Caerffili). Daeth yn aelod o'r Coleg Llawfeddygol Brenhinol.

William Price
Ffotograff o'r Dr. William Price ym 1871
Ganwyd4 Mawrth 1800 Edit this on Wikidata
Rhydri Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 1893 Edit this on Wikidata
Llantrisant Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Gynradd Machen
  • Coleg Brenhinol Llawfeddygon Edit this on Wikidata
Galwedigaethmeddyg, ymgyrchydd yn erbyn pigiadau Edit this on Wikidata
Cerflun o William Price a godwyd yn Llantrisant

Roedd o flaen ei amser yn ei syniadau cymdeithasol a safbwynt athronyddol. Daeth yn gymeriad adnabyddus yn ardal Pontypridd. Roedd yn llysieuwr ac yn noethlymunwr, er enghraifft. Roedd yn gefnogol i'r Siartwyr yn eu hymdrechion i ennill hawliau i'r gweithwyr a chodi eu safonau byw. Yn sgîl ymdaith y Siartwyr ar Gasnewydd ym 1839 ffoes i Ffrainc. Daeth i adnabod y bardd Heinrich Heine ym Mharis.

Enwodd ei fab yn Iesu Grist, gan fwriadol dorri tabŵ crefyddol; enillodd achos llys enwog i gael yr hawl i amlosgi ei fab a fu farw yn chwe mis oed. Ar 14 Mawrth 1884, pan oedd ar ganol paratoi i gorfflosgi ei fab, fe'i arestiwyd gan yr heddlu. Dywedodd yn y Llys nad oedd deddf dros gorff losgi, ond nad oedd ychwaith unrhyw ddeddf yn gwahardd corfflosgi. Cytunodd y llys gydag ef a dychwelodd at y gwaith o gorfflosgi ei fab. Paratodd yr achos llys hwn y ffordd i ddeddfau Corfflosgiad 1902.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Islwyn ap Nicholas, A Welsh Heretic (1973).

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhondda Cynon Taf - Llwybr Treftadaeth". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-18. Cyrchwyd 2008-05-27.