Tancer olew enfawr oedd yr Amoco Cadiz a oedd yn chwifio baner Liberia ac a oedd yn eiddo i gwmni Amoco. Ar 16 Mawrth 1978, aeth y llong ar Greigiau Portsall, Gwitalmeze, Llydaw, 5 km (3 mi) o'r traeth. Llifodd cynnwys ei thanciau: olew; hwn oedd y llif-olew mwyaf a dowlwyd o long. Torrodd yn ddwy a suddodd.[1][2]

Gyrfa
Enw: Amoco Cadiz
Perchennog: Amoco Transport Co.
Porthladd cofrestru:  Liberia
Adeiladwyd: Navantia
Cádiz, Sbaen
Rhif yr iard: 95
Cychwyn adeiladu: 24 Tachwedd 1973
Lansiwyd: 1974
Gorffennwyd: Mai 1975
Allan o wasanaeth: 16 Mawrth 1978
Nodweddion adnabod: Rhif IMO 7336422
Tynged: Suddwyd yn 'Gwitalmeze', Llydaw 48°36′N 4°42′W / 48.6°N 4.7°W / 48.6; -4.7Cyfesurynnau: 48°36′N 4°42′W / 48.6°N 4.7°W / 48.6; -4.7
Nodiadau: [1]

Colli olew

golygu

Yng nghrombil y llong, cadwyd 1,604,500 casgen (219,797 tons) o olew crai 'ysgafn' o Ras Tanura, Sawdi Arabia a Ynys Kharg, Iran.[3] Perchennog yr olew oedd cwmni Shell. Oherwydd cryfder y gwynt a'r tonnau, torrodd yn sawl rhan cyn medru pwmpio'r olew ohoni ac aeth 4,000 tunnell o olew i'r môr.[4]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Amoco Cadiz (IMO 7336422): Summary for Casualty ID 19780316_001". Casualty Database. Center for Tankship Excellence. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-25. Cyrchwyd 16 Mehefin 2010. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  2. Visser, Auke (26 Awst 2010). "Amoco Cadiz". International Super Tankers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-04. Cyrchwyd 9 Medi 2010.
  3. [1] adalwyd 11 Mehefin 2010
  4. Hartog, C. den; Jacobs, R.P.W.M. (Mawrth 1980). "Effects of the Amoco Cadiz Oil Spill on an Eelgrass Community at Roscoff...". Helgoland Marine Research (Berlin / Heidelberg: Springer) 33 (1-4): 182–191. doi:10.1007/BF02414745. http://www.springerlink.com/content/x427513224718740/. Adalwyd 11 Mehefin 2010.[dolen farw]