Amsterdam Newydd
Anheddiad gwladychol Iseldiraidd o'r 17g a weithredai fel prifddinas Iseldir Newydd oedd Amsterdam Newydd. Yn ddiweddarach, datblygodd i fod yn Ddinas Efrog Newydd.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | anheddiad dynol ![]() |
---|---|
Olynwyd gan | Dinas Efrog Newydd ![]() |
Gwladwriaeth | New Netherland ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e6/The_City_New_Amsterdam_on_Manhattan_%28De_Stadt_Nieuw_Amsterdam_op_Manhattans%29_Drawing_1650-1654.jpg/375px-The_City_New_Amsterdam_on_Manhattan_%28De_Stadt_Nieuw_Amsterdam_op_Manhattans%29_Drawing_1650-1654.jpg)
Lleolwyd yr anheddiad, a oedd tu allan i Gaer Amsterdam ar Ynys Manhattan yn yr Iseldir Newydd, rhwng 38 a 42 gradd lledred ac roedd yn estyniad o'r Weriniaeth Iseldiraidd o 1624 ymlaen. Wedi'i leoli ar ben deheuol ynys Manhattan, roedd yn safle strategol, a'i nod oedd i amddiffyn diwydiant ffwr y Cwmni Unedig India'r Dwyrain yn Afon y Gogledd. Gwnaed Caer Amsterdam yn brifddinas y dalaith yn 1625.