Gweriniaeth yr Iseldiroedd

Gweriniaeth ffederal yn y Gwledydd Isel a fodolai o 1588 i 1795 oedd Gweriniaeth yr Iseldiroedd (Iseldireg: Republiek der Nederlanden) neu Weriniaeth Unol Daleithiau yr Iseldiroedd (Republiek der Verenigde Nederlanden), yn swyddogol Gweriniaeth y Saith Iseldir Unedig (Republiek der Zeven Verenigde Nederlanden), a oedd yn cyfateb yn fras i diriogaeth gyfoes yr Iseldiroedd.[1] Hon oedd cenedl-wladwriaeth annibynnol gyntaf yr Iseldirwyr.

Gwladwriaeth yr Iseldiroedd
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasDen Haag Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,880,500 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 26 Gorffennaf 1581 Edit this on Wikidata
AnthemWilhelmus van Nassouwe Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Iseldireg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladGweriniaeth yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.08°N 4.3°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholStates General of the Netherlands Edit this on Wikidata
Map
ArianReichsthaler, Dutch guilder Edit this on Wikidata

Sefydlwyd y weriniaeth gan y saith talaith yng ngogledd yr Iseldiroedd Sbaenaidd a wrthryfeloedd yn erbyn tra-arglwyddiaeth Ymerodraeth Sbaen yng Ngwrthryfel yr Iseldiroedd (1566–1648). Ffurfiwyd cynghrair ym 1579 trwy Undeb Utrecht gan arglwyddiaethau Groningen, Friesland, Utrecht, ac Overijssel, iarllaethau Holand a Zeeland, a Dugiaeth Guelders. Datganwyd annibyniaeth ganddynt trwy'r Ddeddf Ymwadiad ym 1581, a ffurfiwyd y ffederasiwn dan arlywyddiaeth stadtholder ym 1588.

Yr 17g oedd Oes Aur yr Iseldiroedd, ac adeiladwyd ymerodraeth drefedigaethol gan forwyr a masnachwyr Iseldiraidd. Dirywiodd grym y weriniaeth yn ystod y 18g, ac ym 1795 cwympodd yn sgil y Chwyldro Batafaidd a fe'i olynwyd gan y Weriniaeth Fatafaidd.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Dutch Republic. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Hydref 2021.