An Cliseam
Mynydd ar ynys Na Hearadh yn Ynysoedd Allanol Heledd yw An Cliseam (799 metr / 2622 troedfedd). Dyma'r copa uchaf yn Ynysoedd Allanol Heledd.
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 57.9637°N 6.814°W |
Cod OS | NB154073 |
Amlygrwydd | 799 metr |
Mae'r llwybr rhwyddaf i'r copa yn cychwyn o fan uchaf ffordd yr A859 rhwng An Tairbeart (Tarbert) ac Ardvourlie (Aird a' Mhulaidh), gan ddringo ysgwydd deheuol llydan y mynydd. Ceir llwybr arall sy'n cychwyn ger pont ar afon Scaladale (Abhainn Scaladail) ger Ardvourlie, lle gellir dringo'r copa llai Tomnabhal (552 m) ac wedyn mynd ymlaen i An Cliseam. Gellir dilyn y grib i gyfeiriad y gorllewin o An Cliseam wedyn i gopaon Mulla-Fo-Deas (743 m), Mulla-Fo-Thuath (720 m) a Mullach an Langa (614 m), gan gwblhau felly 'Pedol An Cliseam'.