Y rhan ddeheuol o ynys fwyaf Ynysoedd Allanol Heledd yw Na Hearadh (Saesneg: Harris). Gelwir y rhan ogleddol yn Leòdhas (Saesneg:Lewis). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 3,061; y prif sefydliad yw An Tairbeart neu Tairbeart na Hearadh, Saesneg:Tarbert, lle cellir cael fferi i Uig ar ynys Skye.

Na Hearadh
Mathgorynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,916 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd401 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.92139°N 6.82944°W Edit this on Wikidata
Cod OSNB155005 Edit this on Wikidata
Cod postHS3 Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Na Hearadh yn yr Alban

Ystyrir Sant Kilda (40 milltir i’r gogledd-ddwyrain) ac ynys Rockall, sydd yn 230 milltir i’r gorllewin o Uibhist a Tuath yn rhan o plwyf Na Hearadh.

Ar y cyfan mae Na Hearadh yn fwy mynyddog na Leòdhas, ac yma mae'r copa uchaf ar Ynysoedd Allanol Heledd, sef An Cliseam, 799 medr. Mae gan yr ynys amrywiaeth o fywyd gwyllt ac mae'n un o gadarnleoedd iaith Gaeleg yr Alban, gyda thua 60% o'r boblogaeth yn siarad Gaeleg fel iaith gyntaf a thua 70% a rhyw wybodaeth o'r iaith. Presbyteriaeth yw'r brif grefydd, ac mae cadw'r Sul yn parhau i fod yn bwysig yma. Mae'r ynys yn enwog am y brethyn "Harris tweed", ond ar Leòdhas y gwneir y rhan fwyaf ohono bellach. Mae arddangosfa yn Drinisiadar gyda arddangosiadau o’r crefft.[1]. Mae siop gwerthu Harris Tweed yn An Tairbeart. Mae hefyd distyllfa, lle crëir whisgi.[2]

Mae An Tairbeart ar culdir rhwng gogledd a de Na Hearadh. Mae’r gogledd yn fwy mynyddog na’r de, ac mae pont yn cysylltu Ynys Scalpay (Sgalpaigh na Hearadh gyda Na Hearadh. Mae nifer o draethau i’r de o An Tairbeart ar ei arfordir gorllewinol sydd yn denu ymwelwyr i’r ynys.[3]. Maent yn cynnwys traethau Losgaintir, Seilebost, Borve, Northton a Sgarasta.

Cysylltir Na Hearadh gyda Ynys Skye gan fferi o An Tairbeart i Uig. Mae fferi arall yn mynd o An Tòb (Saesneg: Leverburgh) i Ynys Beàrnaraigh o le mae ffordd yn arwain at Uibhist a Tuath.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Mark Rowe, Outer Hebrides: The Western Isles of Scotland, from Lewis to Barra (Bradt Travel Guides, 2017)
  2. Gwefan visitouterhebrides.co.uk
  3. Gwefan scotlandinfo.eu
  4. Gwefan Caledonian MacBrayne