An Inconvenient Truth
Mae An Inconvenient Truth (2006) yn ffilm dogfennol am gynhesu byd-eang a gyfarwyddwyd gan Davis Guggenheim, ac a gyflwynwyd gan cyn Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Al Gore. Bu noson agoriadol y ffilm yng Ngŵyl Ffilmiau Sundance ac agorodd yn Efrog Newydd a Los Angeles ar y 24 Mai 2006. Rhyddhawyd y ffilm ar DVD gan Paramount Home Entertainment ar y 21 Tachwedd 2006. Cyrhaeddodd llyfr gan Gore o'r enw "An Inconvenient Truth: The Planetary Emergency of Global Warming and What We Can Do About It", a oedd yn cyd-fynd â'r ffilm rhif 1 ar restr y New York Times o werthwyr gorau ar 2 Gorffennaf 2006. Enillodd y ffilm ddogfen Wobr yr Academi am y Ffilm Ddogfennol Orau a'r Gân Wreiddiol Orau.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Davis Guggenheim |
Cynhyrchydd | Lawrence Bender Scott Z. Burns Laurie David Lesley Chilcott (cyd-gynhyrchydd) |
Ysgrifennwr | Al Gore |
Serennu | Al Gore |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Paramount Classics |
Dyddiad rhyddhau | 24 Mai, 2006 |
Amser rhedeg | 94 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Gwnaeth y ffilm $49 miliwn yn y swyddfa docynnau yn fyd-eang, gan wneud An Inconvenient Truth y pedwerydd ffilm ddogfen mwyaf llwyddiannus o safbwynt masnachol yn yr Unol Daleithiau, ar ôl Fahrenheit 9/11, March of the Penguins, a Sicko.