Fahrenheit 9/11

ffilm ddogfen gan Michael Moore a gyhoeddwyd yn 2004

Ffilm ddogfen gan Michael Moore a gafodd ei rhyddhau yn 2004 yw Fahrenheit 9/11. Mae'r ffilm yn archwiliad beirniadol i lywyddiaeth George W. Bush, Ymosodiadau 11 Medi 2001, y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth a Rhyfel Irac. Mae'r teitl yn cyfeirio at Fahrenheit 451, y nofel ddystopaidd gan Ray Bradbury sy'n cyflwyno cymdeithas America yn y dyfodol lle mae llyfrau'n cael eu gwahardd ac yn cael eu llosgi pan gant eu darganfod.

Fahrenheit 9/11
Cyfarwyddwr Michael Moore
Cynhyrchydd
Ysgrifennwr Michael Moore
Serennu Michael Moore
Dylunio
Cwmni cynhyrchu
Dyddiad rhyddhau 17 Mai 2004 (Cannes)
25 Mehefin 2004 (UDA)
Amser rhedeg 122 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
(Saesneg) Proffil IMDb

Dyma'r ffilm ddogfen fwyaf proffidiol o bob amser. Enillodd y Palme d'Or yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2004.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ddogfen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.