Anaheim
Mae Anaheim (ynganer / ˈænəhaɪm/ "ANNA-hime") yn ddinas yn Orange County, Califfornia. Erbyn 1 Ionawr 2009 roedd gan y ddinas boblogaeth o tua 348,467 a olygai mai dyma oedd y 10fed dinas mwyaf poblog yng Nghaliffornia. Golyga hyn mai Anaheim yw'r 54edd ddinas fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Disgwylir i boblogaeth y ddinas basio 400,000 erbyn 2014 o ganlyniad i ddatblygiadau mawr yn ardal y Triongl Platinwm yn ogystal ag ardal Bryniau Anaheim. Anaheim yw'r ail ddinas fwyaf yn Swydd Oren (ar ôl Santa Ana) a'r ail fwyaf o ran arwynebedd tir. Mae'r ddinas yn adnabyddus am ei pharciau thema e.e. Disneyland, tîmoedd chwaraeon a chanolfan gynadledda.
Math | dinas yn yr Unol Daleithiau, dinas fawr, charter city |
---|---|
Poblogaeth | 346,824 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ashleigh Aitken |
Cylchfa amser | UTC−08:00 |
Gefeilldref/i | Mito, Vitoria-Gasteiz |
Daearyddiaeth | |
Sir | Orange County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 131 km² |
Uwch y môr | 157 troedfedd |
Yn ffinio gyda | Fullerton, Santa Ana |
Cyfesurynnau | 33.8361°N 117.8897°W |
Cod post | 92800–92899 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Mayor of Anaheim, California |
Pennaeth y Llywodraeth | Ashleigh Aitken |