Vitoria-Gasteiz
Vitoria-Gasteiz yw prifddinas Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg a phrifddinas talaith Álava. Yr enw Sbaeneg yw Vitoria a'r enw Basgeg yw Gasteiz; "Vitoria-Gasteiz" yw'r ffurf swyddogol. Poblogaeth y ddinas yw 253,672 (2022).
![]() | |
![]() | |
Math | bwrdeistref Sbaen ![]() |
---|---|
Prifddinas | Vitoria-Gasteiz ![]() |
Poblogaeth | 253,672 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Maider Etxebarria ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Kutaisi, Vitoria, Angoulême, Cogo, Anaheim, Sullana, Zug, La Güera, Mar del Plata, Victoria, Texas, Ibagué, Dortmund ![]() |
Nawddsant | Sancta Maria ad Nives ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cuadrilla de Vitoria ![]() |
Gwlad | Sbaen, Teyrnas Castilla ![]() |
Arwynebedd | 276.81 km² ![]() |
Uwch y môr | 525 ±1 metr ![]() |
Gerllaw | Zadorra ![]() |
Yn ffinio gyda | Arratzua-Ubarrundia, Elburgo/Burgelu, Barrundia, Iruraiz-Gauna, Bernedo, Iruña de Oca/Iruña Oka, Kuartango, Zuia, Zigoitia, Condado de Treviño, La Puebla de Arganzón ![]() |
Cyfesurynnau | 42.8467°N 2.6731°W ![]() |
Cod post | 01001–01015 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Vitoria-Gasteiz ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Maider Etxebarria ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Alfonso VIII, Alfonso X of Castile and Leon ![]() |
Sefydlwydwyd gan | Sancho VI of Navarre ![]() |
Sefydlwyd Gasteiz yn 1181 gan Sancho VI, brenin Navarra, fel Nueva Victoria. Yn 1200 daeth yn rhan o Deyrnas Castillia pan gipiwyd y dref gan Alfonso VIII, brenin Castilla. Yn 1431 cafodd yr hawl i'w galw ei hun yn ddinas.
Ymladdwyd Brwydr Vitoria ar 21 Mehefin 1813, pan orchfygwyd byddin o Ffrancwyr gan fyddin dan Ddug Wellington, brwydr a roddodd ddiwedd ar yr ymladd yn Sbaen i bob pwrpas.
Ar 20 Mai 1980, cyhoeddwyd Vitoria-Gasteiz yn brifddinas Gwlad y Basg. Mae'r boblogaeth wedi cynyddu'n sylweddol iawn yn y blynyddoedd diwethaf.
