Anastasia Zampounidis

actores

Awdures o'r Groegaidd Almaen yw Anastasia Zampounidis (Groeg: Αναστασία Ζαμπουνίδη; ganwyd 28 Rhagfyr 1968) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio.

Anastasia Zampounidis
Ganwyd28 Rhagfyr 1968 Edit this on Wikidata
Thessaloníci Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethcyflwynydd teledu, cyflwynydd radio, llenor, troellwr disgiau Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.zampounidis.de/ Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Thessaloníci ar 28 Rhagfyr 1968. [1]

Wedi iddi adael yr ysgol uwchradd, teithiodd i Los Angeles lle cwbwlhaodd radd mewn astudiaethau cyfathrebu tra roedd, ar yr un pryd yn au pair, yn ddawnswraig Go-Go, a thiwtor dysgu Groeg. Wedi tipyn, dechreuodd gyflwyno rhaglenni radio o Ferlin. Dechreuodd fel DJ yng ngorsaf radio Berlin, Kiss FM, ac yna newidiodd i'r orsaf radio Energy Berlin. Yn 1996 cyflwynodd ei sioe radio ei hun o'r enw Titel Krazy Dazy. Rhwng 2001 a 2004 cafodd ei rhestru gan FHM-Germany fel un o fenywod mwyaf rhywiol y byd. [2]

Yn 1999, symudodd Zampounidis i'r orsaf deledu MTV, lle cymedrolodd y sioe fyw ddyddiol Select MTV gyntaf. Yn 2002 cyd-gyflwynodd y Kiddy Contest gydag Elmer Rossnegger. Rhwng 2003 a diwedd 2005 cyflwynodd y darllediad TRL dyddiol. O 2001 i 2003 cyflwynodd yn fyw'r rhaglen betio 2002 ar ZDF. Yn 2004, roedd yn aelod o'r rheithgor ar Comeback – Die große Chance (Comeback - Y Cyfle Mawr) ar ProSieben. Yn Rhagfyr 2005, fel aelod o'r tîm safoni, arweiniodd y sioe siart RTL II The Dome, a chyn hynny bu'n cyflwyno'r Backstage Report am dair blynedd. Tan y Dome 39, gweithiodd i RTL II fel gohebydd ar gyfer y fformat hwn, nes iddi gael ei disodli gan gyflwynwyr VIVA, Gülcan Kamps a Janine Kunze.[3]

Ffilmyddiaeth

golygu
  • "The Dome", (1997) TV Series .... (Gohebydd wrth gefn) (2002–2005)
  • MTV yr Almaen, (cyflwynydd "Select MTV") (2002)
  • Rotlicht - Im Dickicht der Großstadt, (TV) .... (Actores gynorthwyol) (2003)
  • "Comeback - Die große Chance"' TV Mini Series ... (Aelod o'r Rheithgor) (2004)
  • "Total Request Live", TV Series .... Cyflwynydd (2004)
  • MTV live show "TRL", (Cyflwynydd dyddiol) (2005)

Aelodaeth

golygu

Bu'n aelod o Gymdeithas Lysiaeaeth yr Almaen am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 15 Hydref 2015. "Anastasia Zampounidis".
  2. Aelodaeth: https://vebu.de/vebu/vebu-unterstuetzen/mitglied-werden/. dyddiad cyrchiad: 26 Mai 2018.
  3. Nodyn:Internetquelle

Dolennau allanol

golygu
Anastasia Zampounidis
 
Ganwyd28 Rhagfyr 1968  
Thessaloníci  
Dinasyddiaeth  Yr Almaen
Galwedigaethcyflwynydd teledu, cyflwynydd radio, llenor, troellwr disgiau  
Gwefanhttps://www.zampounidis.de/  

Awdures o'r Almaen yw Anastasia Zampounidis (ganwyd 28 Rhagfyr 1968) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio ac awdur.

Fe'i ganed yn Thessaloníci ar 28 Rhagfyr 1968. [1]


&== Aelodaeth ==& Bu'n aelod o Gymdeithas Lysiaeaeth yr Almaen am rai blynyddoedd. [2]


Anrhydeddau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 15 Hydref 2015. "Anastasia Zampounidis".
  2. Aelodaeth: https://vebu.de/vebu/vebu-unterstuetzen/mitglied-werden/. dyddiad cyrchiad: 26 Mai 2018.