Cyflwynydd

(Ailgyfeiriad o Cyflwynydd teledu)

Fel arfer, person ydy cyflwynydd sy'n cyflwyno rhaglen deledu neu rhaglen radio. Gall y gair hefyd gyfeirio at gorff, sefydliad neu gwmni (e.e. amgueddfa neu brifysgol) sy'n cyflwyno sioe, arddangosfa neu ffilm ('Cyflwynwyd y ffilm gan...').

Mae meistr seremonïau (Saesneg: master of ceremonies, MC, emcee neu westai) yn berson sy'n cyflwyno sioe, cyngerdd, cinio, priodas ayb.[1] Ym myd ffilmiau, y cyflwynydd yw'r cynhyrchydd gweithredol, a gaiff y credyd am gyflwyno ffilm i gynulleidfa ehangach.

Cyflwynydd teledu golygu

Person sy'n cyflwyno neu'n gwesteio rhaglen deledu ydy cyflwynydd teledu. Mae'n gyffredin i enwogion o nifer o feysydd gymryd y rôl hwn erbyn heddiw, a cheir nifer o bobl sy'n gwneud bywoliaeth o gyflwyno yn unig, yn enwedig ym myd teledu plant. Mae Steve Jones (cyflwynydd) er enghraifft, sy'n enedigol o Drerhondda wedi cyflwyno rhaglenni i'r arddegau T4 ar Channel 4 ac yn yr Unol Daleithiau, mae'n fwyaf adnabyddus am fod yn gyflwynydd cyfres gyntaf rhaglen deledu The X Factor USA.

Cyflwynydd radio golygu

 
Nic Parry; 2014

Yn fras, mae cyflwynydd radio yn gwneud yr un swydd a chyflwynwyr teledu ond eu bod yn cyflwyno rhaglenni radio yn hytrach na theledu. Mae Hywel Gwynfryn yn enghraifft o gyflwynydd ar Radio Cymru, sydd wedi bod wrth ei waith ers tua hanner canrif, gan gyflwyno rhaglenni fel y rhaglen bop Cymraeg gyntaf Helo Sut Da Chi? ar y radio yn 1968.

Cyflwynydd chwaraeon golygu

Math o newyddiadurwr ar y teledu neu/a'r radio ydy sylwebydd chwaraeon (a adnabyddir hefyd fel 'cyflwynydd chwaraeon', 'cyhoeddwr chwaraeon' neu 'ddarlledwr chwaraeon'), sy'n arbenigo mewn sylwebu ar ddigwyddiadau chwaraeon. Gwneir hyn yn aml yn fyw. Mae Nic Parri'n enghraifft o sylwebydd rhaglenni pêl-droed ar y teledu e.e. Sgorio ar S4C,[2] Cyflwynydd rhan amser ydy Nic, ond ceir hefyd cyflwynwyr chwaraeon llawn amser.

Cyfeiriadau golygu

Chwiliwch am cyflwynydd
yn Wiciadur.