Angel y Gogledd

cerflun gan Antony Gormley

Cerflun enfawr ym Mwrdeistref Fetropolitan Gateshead, Tyne a Wear, Gogledd-ddwyrain Lloegr, gan Syr Antony Gormley yw Angel y Gogledd (Saesneg: Angel of the North). Fe'i lleolir ar fryn yn Low Eighton ym mhlwyf sifil Lamesley, yn edrych dros ffyrdd A1 ac A167 a rheilffordd Prif Linell Arfordir y Dwyrain.

Angel y Gogledd
Mathcerflun Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol15 Chwefror 1998 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 15 Chwefror 1998 (agor) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLamesley Edit this on Wikidata
SirBwrdeistref Fetropolitan Gateshead Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.9141°N 1.5894°W Edit this on Wikidata
Cod OSNZ264577 Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolcelf gyfoes Edit this on Wikidata
Map
Deunydddur Edit this on Wikidata

Dechreuodd y gwaith ar y cerflun dur o angel ym 1994 ac fe'i cwblhawyd ym 1998. Mae'n sefyll 20 m (66 tr) o daldra, a'i adenydd yn 54 m (177 tr) o led. Fel llawer o waith arall y cerflunydd, mae'n seiliedig ar gast o'i gorff ei hun.

Yn ôl y cerflunydd, mae gan yr angel arwyddocâd triphlyg: yn gyntaf, mae'n nodi bod glowyr wedi gweithio am ddwy ganrif o dan y safle; yn ail, mae'n nodi'r trosglwyddiad o'r oes ddiwydiannol i'r oes wybodaeth; ac yn drydydd, mae'n gweithredu fel ffocws i'n gobeithion a'n hofnau.

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu

Gwefan swyddogol