Gogledd-ddwyrain Lloegr

rhanbarth swyddogol Lloegr

Un o naw rhanbarth swyddogol Lloegr yw Gogledd-ddwyrain Lloegr (Saesneg: North East England).

Gogledd-ddwyrain Lloegr
Mathrhanbarthau Lloegr, ITL 1 statistical regions of England Edit this on Wikidata
PrifddinasNewcastle upon Tyne Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,669,941, 2,657,909, 2,602,300, 2,683,040 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLloegr Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd8,592 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSwydd Efrog a'r Humber, Gogledd-orllewin Lloegr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55°N 1.87°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE12000001 Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Gogledd-ddwyrain Lloegr yn Lloegr

Mae'n cynnwys arwynebedd cyfun:

Y Cheviot, yn Northumberland, yw'r pwynt uchaf yn y rhanbarth (815m). Newcastle yw ei brif ddinas, tra mai Sunderland yw'r ddinas fwyaf yn nhermau arwynebedd a phoblogaeth. Yn ogystal â'i ardaloedd trefol, sef Tyneside, Wearside, a Teesside, mae gan y rhanbarth harddwch naturiol nodedig, sy'n cynnwys Parc Cenedlaethol Northumberland. Mae'r rhanbarth o bwys hanesyddol hefyd, fel y tystiolaethir gan gestyll Northumberland a dau Safle Treftadaeth y Byd: Eglwys Gadeiriol Durham a Mur Hadrian.

Yn ystod ail hanner yr 20g, dirywiodd y diwydiant adeiladu llongau, a oedd wedi dominyddu Wearside a Tyneside, yn ddifrifol. Bellach mae Tyneside yn ailddyfeisio ei hun fel canolfan ryngwladol ar gyfer celfyddyd a diwylliant, yn ogystal ag ymchwil wyddonol. Ar ôl dioddef dirywiad economaidd yn ystod y ganrif ddiwethaf, mae Wearside yn dod yn ardal bwysig ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg uchel. Mae economi Teesside yn seiliedig ar ei ddiwydiant petrogemegol gan mwyaf. Mae Northumberland a Swydd Durham, sy'n wledig gan mwyaf, yn seilio rhan fawr o'u heconomi ar ffermio a thwristiaeth. Mae gan ranbarth Gogledd-ddwyrain Lloegr CMC y pen isaf yn Lloegr.

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu