Anghenfil Frankenstein
Cymeriad ffuglennol yw Anghenfil Frankenstein, y cyfeirir ato'n aml fel "Frankenstein". Ymddangosodd gyntaf yn nofel o 1818, Frankenstein, or The Modern Prometheus gan Mary Shelley. Mae teitl Shelley yn cymharu creawdwr yr anghenfil, Victor Frankenstein, â'r cymeriad mytholegol Promethëws, a luniodd fodau allan o glai a rhoi tân iddynt.
Enghraifft o'r canlynol | fictional humanoid, organeb ffuglennol, cymeriad llenyddol, meirw byw mewn gwaith ffuglennol, anghenfil, cymeriad ffilm, cymeriad teledu |
---|---|
Crëwr | Mary Shelley, Victor Frankenstein |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn stori Shelley, mae Victor Frankenstein yn adeiladu’r creadur yn ei labordy. Disgrifir yr anghenfil fel un 8 troedfedd o daldra, gan ymddangosiad erchyll, yn cynnwys rhannau amrywiol a gymerwyd o gyrff troseddwyr dienyddig. Mae ganddo emosiynau ac yn ceisio ffitio i mewn i gymdeithas ddynol ond yn cael ei anwybyddu, sy'n ei arwain i geisio dial yn erbyn Victor.
Daeth anghenfil Frankenstein yn eiconig mewn diwylliant poblogaidd, ac mae wedi cael sylw mewn gwahanol fathau o gyfryngau, gan gynnwys ffilmiau, cyfresi teledu, nwyddau a gemau fideo. Y fersiynau a gydnabyddir fwyaf yw'r portreadau ffilm gan Boris Karloff yn ffilm o 1931 Frankenstein, a'i ddilyniannau Bride of Frankenstein (1935), a Son of Frankenstein (1939).