Promethëws (mytholeg)

Ym mytholeg Roeg, un o'r Titaniaid oedd Promethëws (Groeg: Προμηθεύς Prometheus). Roedd yn enwog am ei gyfrwysdra, ac yn arbennig am ddwyn tân oddi wrth Zeus a'i roi i ddynoliaeth.

Promethëws yn dod a thân i ddynoliaeth, gan Heinrich Füger, (1817).
Gweler hefyd Promethëws (gwahaniaethu).

Ymddengys y chwedl gyntaf yng ngwaith Hesiod, tua diwedd yr 8fed ganrif CC. Roedd Promethëws yn fab i Iapetus, un o'r titaniaid, a Themis neu Clymene, un o'r Oceanides. Roedd felly yn frawd i Atlas, Menoetius ac Epimethëws.

Roedd Zeus wedi gwrthod tân i'r ddynoliaeth oherwydd ei dwyllo gan un o ystrywiau blaenorol Promethëws. Aeth Promethëws i Olympia, cymerodd dân a'i drosglwyddo i ddynoliaeth. Fel cosb, cadwynwyd ef werth graig, lle roedd eryr yn bwyta ei iau bob dydd; bydda'r iau yn ail-dyfu yn ystod y nos. Gyrrodd Zeus y ferch gyntaf, Pandora, ar frawd Promethëws, Epimethëws, gyda blwch oedd yn cynnwys pob afiechyd a phoen i boeni dynoliaeth.

Y ddrama enwocaf ar y pwnc yw trasiedi Promethëws yn Rhwym, a briodolir i Aeschylus; yn ôl pob tebyg y rhan gyntaf o drioleg Prometheia, er nad yw'r rhannau eraill wedi eu cadw.

Enwir y lloeren Promethëws ar ôl y cymeriad mytholegol.