Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd

Mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (Saesneg: attention deficit hyperactivity disorder neu ADHD) yn anhwylder meddyliol o fath newroddatblygol.[1][2] Mae ei nodweddion yn cynnwys problemau cymryd sylw, gor-weithgaredd, neu anhawster rheoli ymddygiad nad yw'r arferol i berson o'i oedran. Mae'r symtomau yn ymddangos cyn bod y person yn ddeuddeg mlwydd oed, yn ymestyn dros gyfnod o fwy na chwe mis, ac yn achosi problemau mewn o leiaf mwy na dwy sefyllfa (fel ysgol, adref, neu weithgareddau hamdden).[3][4] Mewn plant, gall problemau cymryd sylw arwain at berfformiad gwael yn yr ysgol. Er ei fod yn achosi amhariaeth, yn arbennig mewn cymdeithas fodern, mae nifer o blant sydd a'r anhwylder yn arddangos rhychwant sylw da ar gyfer tasgau sy'n eu diddori.[5]

Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd
Enghraifft o'r canlynolanhwylder ymddygiad, anabledd, dosbarth o glefyd, anhwylder niwroddatblygol, neurodiversity Edit this on Wikidata
Mathanhwylder datblygiadol penodol, anhwylder hypercinetig, clefyd, anhwylder niwroddatblygol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae'r cortecs cyndalennol chwith yn aml yn cael ei effeithio mewn achosion o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd.

Er mai hwn yw'r anhwylder meddyliol sydd cael ei astudio a'i ddiagnosio fwyaf ymhlith plant a phobl ifanc, nid yw'r achos yn hysbys yn y mwyafrif o achosion. Mae'n effeithio tua 5–7% o blant pan yn cael ei adnabod gan ddefnyddio meini prawf DSM-IV[6][7] ac 1–2% pan yn cael ei adnabod gan ddefnyddio meini prawf ICD-10.[8] Ers 2015 mae wedi'i amcangyfrif ei fod yn effeithio 51.1 miliwn o bobl yn fyd-eang. Mae cyfraddau yn debyg rhwng gwledydd ac yn dibynnu'n bennaf ar y dull o'i adnabod.[9] Mae'r anhwylder yn cael ei adnabod mewn tua tair gwaith yn fwy o fechgyn nag o ferched, er bod tybiaeth nad yw'r anhwylder yn cael ei adnabod mor aml ymhlith merched oherwydd bod y symtomau yn wahanol.[10][11][12] Mae tua 30–50% o bobl sydd a'r anhwylder yn eu plentyndod yn parhau i arddangos y symtomau fel oedolion ac mae gan rhwng 2–5% o oedolion y cyflwr.[13][14][15] Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng yr cyflwr a chyflyrau eraill, a gwahaniaethu rhwng gorfywiogrwydd sy'n dal i fod o fewn ystod ymddygiadau normadol.

Mae argymhellion ar gyfer rheoli anhwylder diffyg canolbwynio a gorfywiogrwydd yn amrywio rhwng gwledydd ac fel arfer yn gyfuniad o gwnsela, newidiadau mewn ffordd o fyw, a meddyginiaethau.[16]

Mae llenyddiaeth feddygol wedi disgrifio symtomau tebyg i rai anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ers y 19g.[17] Mae'r anhwylder a'r driniaeth ohono wedi'i ystyried yn ddadleuol ers y 1970au, gyda meddygon, athrawon, lluniwyr polisi, rhieni a'r cyfryngau yn rhan o'r drafodaeth.[18] Mae pynciau trafod yn cynnwys achosion yr anhwylder a'r defnydd o feddyginiaethau adfywiol i'w drin.[19] Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal iechyd yn derbyn bod yr anhwylder yn bodoli mewn plant ac oedolion, ac mae'r ddadl o fewn i'r gymuned feddygol yn canoli yn bennaf ar y dulliau o'i adnabod a'r driniaeth ohono.[20][21][22] Cafodd y cyflwr ei enwi yn anhwylder diffyg canolbwyntio rhwng 1980 a 1987; cyn hynny, roedd yn cael ei alw yn adwaith gorginetig plentyndod (Saesneg: hyperkinetic reaction of childhood).[23][24]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Inattentiveness in attention-deficit/hyperactivity disorder". Neuroscience Bulletin 29 (1): 103–10. Chwefror 2013. doi:10.1007/s12264-012-1295-6. PMC 4440572. PMID 23299717. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4440572.
  2. Encyclopedia of Cross-Cultural School Psychology. Springer Science & Business Media. 2010. t. 133. ISBN 9780387717982.
  3. "Symptoms and Diagnosis". Attention-Deficit / Hyperactivity Disorder (ADHD). Division of Human Development, National Center on Birth Defects and Developmental Disabilities, Centers for Disease Control and Prevention. 29 Medi 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Dulcan, Mina K.; Lake, MaryBeth (2011). "Axis I Disorders Usually First Diagnosed in Infancy, Childhood or Adolescence: Attention-Deficit and Disruptive Behavior Disorders". Concise Guide to Child and Adolescent Psychiatry (arg. 4th illustrated). American Psychiatric Publishing. tt. 34. ISBN 978-1-58562-416-4.
  5. "[The school child with ADHD]" (yn DE). Therapeutische Umschau. Revue Therapeutique 69 (8): 467–73. Awst 2012. doi:10.1024/0040-5930/a000316. PMID 22851461.
  6. American Psychiatric Association (2013). Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (arg. 5th). Arlington: American Psychiatric Publishing. tt. 59–65. ISBN 978-0-89042-555-8.
  7. "The prevalence of DSM-IV attention-deficit/hyperactivity disorder: a meta-analytic review". Neurotherapeutics 9 (3): 490–9. Gorffennaf 2012. doi:10.1007/s13311-012-0135-8. PMC 3441936. PMID 22976615. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3441936.
  8. Cowen, Philip; Harrison, Paul; Burns, Tom (2012). "Drugs and other physical treatments". Shorter Oxford Textbook of Psychiatry (arg. 6th). Oxford University Press. tt. 546. ISBN 978-0-19-960561-3.
  9. Tsuang, MT; Tohen, M; Jones, P, gol. (2011). "Ch. 25: Epidemiology of Attention Deficit Hyperactivity Disorder". Textbook of Psychiatric Epidemiology (arg. 3rd). John Wiley & Sons. tt. 450. ISBN 9780470977408.
  10. Crawford, Nicole (Chwefror 2003). "ADHD: a women's issue". Monitor on Psychology 34 (2): 28. http://www.apa.org/monitor/feb03/adhd.aspx.
  11. "[Structural and functional neuroanatomy of attention-deficit hyperactivity disorder (ADHD)]" (yn FR). L'Encephale 35 (2): 107–14. Ebrill 2009. doi:10.1016/j.encep.2008.01.005. PMID 19393378.
  12. "Beyond polemics: science and ethics of ADHD". Nature Reviews. Neuroscience 9 (12): 957–64. Rhagfyr 2008. doi:10.1038/nrn2514. PMID 19020513.
  13. "European consensus statement on diagnosis and treatment of adult ADHD: The European Network Adult ADHD". BMC Psychiatry 10: 67. Medi 2010. doi:10.1186/1471-244X-10-67. PMC 2942810. PMID 20815868. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2942810.
  14. "[Neuropsychological impairments in adult attention deficit hyperactivity disorder: a literature review]" (yn Hungarian). Psychiatria Hungarica 23 (5): 324–35. 2008. PMID 19129549.
  15. "Underdiagnosis of attention-deficit/hyperactivity disorder in adult patients: a review of the literature". The Primary Care Companion for CNS Disorders 16 (3). 2014. doi:10.4088/PCC.13r01600. PMC 4195639. PMID 25317367. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4195639. "Reports indicate that ADHD affects 2.5%–5% of adults in the general population,5–8 compared with 5%–7% of children.9,10 ... However, fewer than 20% of adults with ADHD are currently diagnosed and/or treated by psychiatrists.7,15,16"
  16. "Attention Deficit Hyperactivity Disorder". National Institute of Mental Health. Mawrth 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 5 Mawrth 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  17. "The history of attention deficit hyperactivity disorder". Attention Deficit and Hyperactivity Disorders 2 (4): 241–55. Rhagfyr 2010. doi:10.1007/s12402-010-0045-8. PMC 3000907. PMID 21258430. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3000907.
  18. Encyclopedia of Social Problems. SAGE. 2008. t. 63. ISBN 9781412941655. Cyrchwyd 2 Mai 2009.Check date values in: |access-date= (help)
  19. "ADHD and the rise in stimulant use among children". Harvard Review of Psychiatry 16 (3): 151–66. 2008. doi:10.1080/10673220802167782. PMID 18569037.
  20. "When the child with ADHD grows up" (PDF). Australian Family Physician 33 (8): 615–8. Awst 2004. PMID 15373378. http://www.racgp.org.au/afp/200408/20040803sim.pdf.
  21. Attention-deficit/hyperactivity disorder (arg. 3rd). American Psychiatric Publishing. 2004. tt. 4–7. ISBN 978-1-58562-131-6.
  22. "Attention deficit/hyperactivity disorder: complexities and controversies". Current Opinion in Pediatrics 18 (2): 189–95. Ebrill 2006. doi:10.1097/01.mop.0000193302.70882.70. PMID 16601502.
  23. Weiss, Lawrence G. (2005). WISC-IV clinical use and interpretation scientist-practitioner perspectives (arg. 1st). Amsterdam: Elsevier Academic Press. t. 237. ISBN 978-0-12-564931-5.
  24. "ADHD: The Diagnostic Criteria". PBS. Frontline. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Ebrill 2016. Cyrchwyd 5 Mawrth 2016. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)