Afiechyd meddwl

Mae afiechyd meddyliol neu salwch meddyliol yn batrwm ymddygiadol neu seicolegol a welir mewn unigolyn sydd yn achosi ing neu anabledd na ystyrir yn rhan o ddatblygiad neu ddiwylliant normal. Mae adnabyddiaeth a dealltwriaeth o anhwylderau meddyliol wedi newid dros amser a thros ddiwylliannau gwahanol. Amrywia'r diffiniadau, asesiadau a dosbarthiadau o anhwylderau meddyliol, ond ceir rhestr o feini prawf a restrir yn yr ICD, DSM a chyfeirlyfrau eraill a dderbynir gan bobl proffesiynol ym maes iechyd meddyliol. Mae'r categorïau hyn yn cynnwys anhwylderau tymer, anhwylderau pryder, anhwylderau seicotig, anhwylderau bwyta, anhwylderau datblygiadol, anhwylderau personoliaeth a chategorïau eraill. Mewn nifer o achosion, nid oes un achos pendant neu barhaus dros anhwylderau meddyliol. Gall nodweddion o'r fath fod yn barhaus, yn ysbeidiol, neu gallant ddigwydd am gyfnodau ynysig, unigol. Disgrifiwyd llawer o anhwylderau, gydag arwyddion a symptomau sy'n amrywio'n fawr rhwng anhwylderau ac anhwylder.[1][2] Gall gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol, fel arfer seicolegydd clinigol neu seiciatrydd, ddeiagnosio anhwylderau o'r fath.[3]

Gautier - Salpetriere.JPG
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolclass of disease Edit this on Wikidata
Mathclefyd, particular disease Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebiechyd meddwl Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae anhwylderau meddyliol yn gyffredin, gyda thraean o bobl yn y mwyafrif o wledydd yn ateb gofynion digon o'r meini prawf yn ystod rhyw gyfnod o'u bywydau. Lleolir gwasanaethau ar gyfer anhwylderau meddyliol mewn ysbytai neu yn y gymuned. Caiff anhwylderau meddyliol eu deiagnosio gan ddefnyddio methodoleg gwahanol, gan ddibynnu yn aml ar hanes y claf a chyfweliad. Dau opsiwn ar gyfer triniaeth yw moddion seicotherapi a seiciatrig, yn ogystal â hunan-gymorth a chefnogaeth ymyrrol. Gellir gorfodi triniaeth yn dibynnu ar ddeddfwriaeth gwlad. Gwelir nifer o ymgyrchoedd er mwyn newid safon gwasanaethau ac agweddau pobl at anhwylderau meddyliol.

Mae achos salwch meddwl yn aml yn aneglur ac mae'r damcaniaethau'n ymgorffori canfyddiadau o ystod o feysydd amrywiol. Caiff anhwylder meddwl fel arfer ei ddiffinio gan gyfuniad o sut mae person yn ymddwyn, yn teimlo, yn canfod, neu'n meddwl.[4] Gall hyn fod yn gysylltiedig â rhanbarthau neu swyddogaethau penodol yr ymennydd, yn aml mewn cyd-destun cymdeithasol. Gellir dweud bod salwch meddwl yn un agwedd o iechyd meddwl. Dylid ystyried credoau diwylliannol a chrefyddol, yn ogystal â normau cymdeithasol, wrth wneud diagnosis.[5]

Lleolir llawer o'r gwasanaethau mewn ysbytai seiciatrig neu yn y gymuned, a chynhelir asesiadau gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol megis seiciatryddion, seicolegwyr, nyrsys seiciatrig a gweithwyr cymdeithasol clinigol, gan ddefnyddio dulliau amrywiol megis profion seicometrig ond yn aml yn dibynnu ar arsylwi a chwestiynu'r claf. Darperir triniaethau gan amryw o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol. Mae seicotherapi a meddyginiaeth seiciatrig yn ddau opsiwn ac mae triniaethau eraill yn cynnwys newidiadau i ffordd o fyw, ymyriadau cymdeithasol, cymorth gan gymheiriaid, a hunangymorth. Mewn lleiafrif o achosion, efallai y bydd carchar neu driniaeth anwirfoddol yn dilyn y diagnosis. Dangoswyd bod rhaglenni atal (ee ymarrfer corff) yn lleihau iselder.[4][6]

Yn 2019, roedd y prif anhwylderau meddwl ledled y byd yn cynnwys iselder, a effeithiodd ar tua 264 miliwn, anhwylder deubegwn, a effeithiodd ar tua 45 miliwn, dementia, a effeithiodd ar tua 50 miliwn, a sgitsoffrenia a seicosisau eraill, a effeithiodd ar tua 20 miliwn o bobl.[7] Mae anhwylderau niwroddatblygiadol yn cynnwys anabledd deallusol ac anhwylderau sbectrwm awtistiaeth sydd fel arfer yn codi yn ystod babandod neu blentyndod.[8][7] Gall stigma a gwahaniaethu ychwanegu at y dioddefaint a'r anabledd sy'n gysylltiedig ag anhwylderau meddwl, gan arwain at symudiadau cymdeithasol amrywiol yn ceisio cynyddu dealltwriaeth o'r salwch a cheisio cynnwys y claf mewn digwyddiadau cymdeithasol.

Yn 2022, yn dilyn dwy flynedd o'r Gofid Mawr, credir yn gyffredinol fod clo mawr a rhannol yn ynysyu pobl ac yn dwysau salwch meddwl.

DiffiniadGolygu

Mae diffinio a dosbarthu anhwylderau meddwl yn faterion allweddol i ymchwilwyr yn ogystal â darparwyr gwasanaethau a'r rhai a all gael diagnosis. Er mwyn i gyflwr meddwl person gael ei gofnodi fel anhwylder (neu salwch), yn gyffredinol mae angen iddo achosi camweithrediad (rhyw drafferth).[9] Mae'r rhan fwyaf o ddogfennau clinigol rhyngwladol yn defnyddio'r term "anhwylder" meddyliol, tra bod "salwch" hefyd yn gyffredin, ac yn cynyddu yn ei ddefnydd. Nodwyd nad yw defnyddio'r term "meddwl" (hy, y meddwl ) o reidrwydd i fod i awgrymu arwahanrwydd oddi wrth yr ymennydd neu'r corff.

Yn ôl DSM-IV a gyhoeddwyd yn 1994 gan Gyfundrefn Iechyd y Byd, mae anhwylder meddwl yn syndrom neu'n batrwm seicolegol sy’n gysylltiedig â thrallod (e.e. trwy symptom poenus), anabledd (nam mewn un neu fwy o feysydd gweithredu pwysig), mwy o risg o farwolaeth, neu achosi trallod sylweddol neu golli ymreolaeth. Fodd bynnag, mae'n eithrio adweithiau cyffredin megis galar a hefyd yn eithrio ymddygiad gwyrdroëdig (deviant behavior) am resymau gwleidyddol, crefyddol neu gymdeithasol nad ydynt yn deillio o gamweithrediad yn yr unigolyn.[10][11]


Yn 2013, ailddiffiniodd Cymdeithas Seiciatrig America (APA) anhwylderau meddwl yn y DSM-5 fel "syndrom lle aflonyddir ar yr unigolyn yn arwyddocaol o ran eiwybyddiaeth, ei reolaeth o'i emosiynau, neu ei ymddygiad ac sy'n adlewyrchu camweithrediad yn y prosesau seicolegol, biolegol neu ddatblygiadol."[12] Mae drafft terfynol ICD-11 Cyfundrefn Iechyd y Byd yn cynnwys diffiniad tebyg iawn. [13]

Defnyddir y termau "chwalfa feddyliol", "mental breakdown" neu "chwalfa nerfol" gan bobl gyffredin i olygu anhwylder meddwl.[14] Nid yw'r termau hyn wedi'u diffinio'n ffurfiol trwy system ddiagnostig feddygol fel y DSM-5 neu'r ICD-10, a phrin iawn y cant eu defnyddiol o fewn llenyddiaeth wyddonol ynghylch salwch meddwl.[15][16] Er nad yw "chwalfa feddyliol" wedi'i ddiffinio'n drylwyr, mae arolygon o leygwyr yn awgrymu bod y term yn cyfeirio at anhwylder adweithiol acíwt penodol gyda chyfyngiad amser, ac sy'n cynnwys symptomau fel pryder neu iselder, a achosir fel arfer gan bethau allanol sy'n rhoi straen arno hi neu fo.[15] Mae llawer o arbenigwyr iechyd heddiw yn cyfeirio at chwalfa nerfol fel argyfwng iechyd meddwl.[17]

Salwch nerfolGolygu

Yn ogystal â'r cysyniad o anhwylder meddwl, mae rhai pobl wedi dadlau o blaid dychwelyd i'r cysyniad hen-ffasiwn o salwch nerfol. Yn Sut Daeth Pawb yn Isel: Cynnydd a Chwymp y Chwaliad Nerfol (2013), dywed Edward Shorter, athro seiciatreg a hanes meddygaeth:

DosbarthiadauGolygu

Ar hyn o bryd mae dwy system sydd wedi’u sefydlu’n eang sy’n dosbarthu anhwylderau meddwl:

  • Pennod V ICD-10: Anhwylderau meddyliol ac ymddygiadol, ers 1949 yn rhan o'r Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau a gynhyrchwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd,
  • y Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol o Anhwylderau Meddyliol (DSM-5) a gynhyrchwyd gan yr APA ers 1952.

Mae'r ddau yn rhestru categorïau o anhwylder ac yn darparu meini prawf safonol ar gyfer diagnosis. Maent wedi cydgyfeirio eu codau yn fwriadol mewn diwygiadau diweddar fel bod y llawlyfrau'n gymharol debyg, er bod gwahaniaethau sylweddol yn parhau. Gellir defnyddio cynlluniau dosbarthu eraill mewn diwylliannau anorllewinol, er enghraifft, y Dosbarthiad Tsieineaidd o Anhwylderau Meddyliol, a gellir defnyddio llawlyfrau eraill gan eraill e.e. y Llawlyfr Diagnostig Seicodynamig. Yn gyffredinol, mae anhwylderau meddwl yn cael eu dosbarthu ar wahân i anhwylderau niwrolegol, anableddau dysgu neu anabledd deallusol.

Yn wahanol i'r DSM a'r ICD, nid yw rhai o'r dulliau'n seiliedig ar nodi categorïau gwahanol o anhrefn gan ddefnyddio proffiliau symptomau deuol a fwriedir i wahanu'r annormal o'r normal. Ceir cryn ddadlau gwyddonol ynghylch rhinweddau cymharol cynlluniau categoreiddio yn erbyn cynlluniau di-gategori (neu gyfuniad) o’r fath, a elwir hefyd yn fodelau continwwm neu ddimensiwn. Gall ymagwedd sbectrwm ymgorffori elfennau o'r ddau.

AnhwylderauGolygu

Mae yna lawer o wahanol gategorïau o anhwylder meddwl, a llawer o wahanol agweddau ar ymddygiad dynol a phersonoliaeth a all fynd yn anhrefnus.[18][19][20]

Anhwylder gorbryderGolygu

Anhwylder gorbryder: gall pryder neu ofn sy'n ymyrryd â bywyd pob dydd gael ei ddiffinio a'i ddosbarthu fel anhwylder gorbryder.[19] Mae'n cynnwys ffobiâu penodol, anhwylder gorbryder cyffredinol, anhwylder gorbryder cymdeithasol, anhwylder panig, agoraffobia, anhwylder gorfodaeth obsesiynol ac anhwylder straen wedi trawma.

Anhwylder hwyliauGolygu

Anhwylder hwyliau (Mood disorder): gall prosesau affeithiol eraill (emosiwn / hwyliau) hefyd fynd yn anhrefnus ac ar chwâl. Gelwir anhwylder hwyliau sy'n cynnwys tristwch anarferol o ddwys a pharhaus, melancolia, neu anobaith yn iselder mawr (a elwir hefyd yn iselder unbegynol neu glinigol). Gall iselder mwynach, ond sy'n dal i fod yn hirfaith, gael ei ddiagnosio fel dysthymia. Mae anhwylder deubegwn (a elwir hefyd yn iselder manig) yn cynnwys cyflyrau hwyliau anarferol o “uchel” neu dan bwysau, a elwir yn fania neu hypomania, am yn ail â hwyliau arferol neu isel. Mae'r graddau y mae ffenomenau hwyliau unbegynol ac deubegwn yn cynrychioli categorïau gwahanol o anhrefn, neu'n cymysgu ac uno ar hyd dimensiwn neu sbectrwm o hwyliau, yn destun rhywfaint o ddadl wyddonol.[21][22]

Anhwylder seicotigGolygu

Anhwylder seicotig: gall patrymau cred, defnydd iaith a dehongliadau gwahanol o realaeth ddadreoleiddio (ee rhithweledigaeth, anhwylder meddwl, rhithdybiaethau). Mae anhwylderau seicotig yn y maes hwn yn cynnwys sgitsoffrenia, ac anhwylder rhithdybiol. Mae anhwylder sgitsoaffeithiol yn gategori a ddefnyddir ar gyfer unigolion sy'n dangos agweddau ar sgitsoffrenia ac anhwylderau affeithiol. Mae sgitsoffrenia yn gategori a ddefnyddir ar gyfer unigolion sy'n dangos rhai o'r nodweddion sy'n gysylltiedig â sgitsoffrenia, ond heb fodloni'r meini prawf yn llwyr.

Anhwylder personoliaethGolygu

Anhwylder personoliaeth: nodweddion sylfaenol person sy'n dylanwadu ar feddyliau ac ymddygiadau ar draws sefyllfaoedd ac amser.

Gall personoliaeth gael ei ystyried yn anhrefnus os bernir ei fod yn annormal o anhyblyg a chamaddasol (maladaptive). Er bod yr anhwylder hwn yn cael ei drin ar wahân gan rai, mae’r meincnodau categorïo a ddefnyddir yn gyffredin yn ei gynnwys fel anhwylderau meddwl, ond eto ar wahân yn achos y DSM-IV. Rhestrir nifer o anhwylderau personoliaeth gwahanol, gan gynnwys y rhai a ddosberthir weithiau fel rhai ecsentrig, megis anhwylder personoliaeth paranoiaidd, personoliaeth sgitsoid a sgitsoteip; mathau sydd wedi'u disgrifio fel rhai dramatig neu emosiynol, megis anhwylderau personoliaeth anghymdeithasol, ffiniol, histrionic neu narsisaidd; a'r rhai a ddosberthir weithiau fel rhai sy'n gysylltiedig ag ofn, megis anhwylderau personoliaeth gorbryderus, dibynnol, neu obsesiynol-orfodol.

Mae anhwylderau personoliaeth, yn gyffredinol, yn cael eu diffinio fel rhai sy'n dod i'r amlwg yn ystod plentyndod, neu o leiaf yn ystod llencyndod neu oedolaeth gynnar. Mae gan yr ICD hefyd gategori ar gyfer newid personoliaeth barhaus ar ôl profiad trychinebus neu salwch seiciatrig. Os yw anallu i addasu'n ddigonol i amgylchiadau bywyd yn dechrau o fewn tri mis i ddigwyddiad neu sefyllfa benodol, ac yn dod i ben o fewn chwe mis ar ôl i'r straenwr (yr hyn a achosai'r straen) ddod i ben neu gael ei ddileu, gellir ei ddosbarthu yn lle hynny fel anhwylder addasu.[23][24]

Anhwylder bwytaGolygu

Mae anhwylder bwyta'n golygu pryder anghymesur mewn materion bwyd a phwysau.[19] Ymhlith y categorïau o anhrefn yn y maes hwn mae anorecsia nerfosa, bwlimia nerfosa, bwlimia ymarfer corff neu anhwylder gorfwyta trachwantus (binge eating disorder).[25][26]

Anhwylder cwsgGolygu

Mae anhwylder cwsg yn gysylltiedig ag amharu ar batrymau cwsg arferol. Anhwylder cwsg cyffredin yw anhunedd, a ddisgrifir fel anhawster i syrthio i gysgu neu i gael cwsg am gyfnod hir.

Perthynol i rywioldebGolygu

Mae anhwylderau rhywiol yn cynnwys dyspareunia a gwahanol fathau o baraffilia (cyffro rhywiol i wrthrychau, sefyllfaoedd, neu unigolion sy'n cael eu hystyried yn annormal neu'n niweidiol i'r person neu eraill).

ArallGolygu

Anhwylder rheoli awch: gall pobl nad ydynt yn annormal fethu gwrthsefyll yr awch sydd ynddynt, neu ysgogiadau penodol a allai fod yn niweidiol iddynt neu i eraill; gellir galw'r math hwn hefyd yn anhwylder rheoli ysgogiad, a gall gynnwys kleptomania (dwyn) neu pyromania (cynnau tân). Gall dibyniaethau ymddygiad amrywiol, megis caethiwed i gamblo, gael eu dosbarthu fel anhwylder hefyd, a gall anhwylder obsesiynol-orfodol (osessive-compulsive disorder) weithiau olygu methu gwrthsefyll rhai gweithredoedd ond caiff ei ddosbarthu ar wahân fel anhwylder gorbryder yn bennaf.

Anhwylder defnyddio sylweddau: mae'r anhwylder hwn yn cyfeirio at y defnydd o gyffuriau (cyfreithlon neu anghyfreithlon, gan gynnwys alcohol) sy'n parhau er gwaethaf problemau neu niwed sylweddol sy'n gysylltiedig â'i ddefnyddio. Mae dibyniaeth ar sylweddau a chamddefnyddio sylweddau yn dod o dan y categori ymbarél hwn yn y DSM. Gall anhwylder defnyddio sylweddau fod o ganlyniad i batrwm o ddefnydd cymhellol (compulsive) ac ailadroddus o gyffur sy'n arwain at gor-oddefgarwch i'w effeithiau a symptomau diddyfnu pan fydd defnydd yn cael ei leihau neu ei atal.

Anhwylder datgysylltiol: gall pobl sy'n dioddef aflonyddwch difrifol o'u hunan-hunaniaeth, o'u cof, a'r ymwybyddiaeth gyffredinol ohonynt eu hunain gael eu dosbarthu fel rhai sydd â'r mathau hyn o anhwylderau, gan gynnwys anhwylder dadbersonoli neu anhwylder hunaniaeth ddatgysylltiol (personoliaeth lluosog. anhwylder neu "bersonoliaeth hollt").

Anhwylder gwybyddol: mae'r rhain yn effeithio ar alluoedd gwybyddol, gan gynnwys dysgu a chofio. Mae’r categori hwn yn cynnwys deliriwm ac anhwylder niwrowybyddol ysgafn a mawr (a elwid yn flaenorol yn orddryswch neu'n ddementia).

Arwyddion a symptomauGolygu

CwrsGolygu

Fel arfer, mae anhwylderau seiciatrig yn digwydd rhywdro yn ystod plentyndod hyd at yr arddegau hwyr.[27] Mae anhwylderau rheoli ysgogiad (impulse-control disorders) ac ychydig o anhwylderau pryder yn dueddol o ymddangos yn ystod plentyndod. Mae rhai anhwylderau pryder eraill, anhwylderau sylweddau, ac anhwylderau hwyliau yn dod i'r amlwg yn ddiweddarach yng nghanol yr arddegau.[28] Mae symptomau o sgitsoffrenia fel arfer yn cel eu hamlygu rhwng y glasoed hwyr a'r ugeiniau cynnar.[29]

Mae cwrs a chanlyniad tebygol anhwylderau meddwl yn amrywio ac yn dibynnu ar nifer o ffactorau sy'n ymwneud â'r anhwylder ei hun, yr unigolyn yn ei gyfanrwydd, a'r amgylchedd cymdeithasol. Gall rhai anhwylderau bara am gyfnod byr, tra gall eraill fod yn rhai hirdymor eu natur.

Gall pob anhwylder gael cwrs amrywiol, o ran ei hyd, ei ddyfnder a'i impact ac effaith ar y claf. Mae astudiaethau rhyngwladol hirdymor o sgitsoffrenia wedi canfod bod dros hanner yr unigolion yn gwella o ran symptomau, a rhwng 20-33% o ran symptomau a gweithrediad, gyda llawer heb angen unrhyw feddyginiaeth. Er bod gan rai anawsterau difrifol ac anghenion cymorth ers blynyddoedd lawer, mae adferiad "hwyr" yn dal yn gredadwy.[30][31]

Ffactorau risgGolygu

GenetegGolygu

Mae nifer o anhwylderau seiciatrig yn gysylltiedig â hanes teuluol (gan gynnwys iselder, anhwylder personoliaeth narsisaidd[32][33] a phryder).[34] Mae astudiaethau deuol hefyd wedi datgelu fod etifeddiant yn uchel iawn ar gyfer llawer o anhwylderau meddwl (yn enwedig awtistiaeth a sgitsoffrenia).[35] Er bod ymchwilwyr wedi bod yn chwilio ers degawdau am gysylltiadau clir rhwng geneteg ac anhwylderau meddwl, nid yw'r gwaith hwnnw wedi esgor ar fiofarcwyr genetig penodol hyd yma, cysylltiad a allai arwain at well diagnosis a thriniaethau gwell.[36]

Tuedd ddiwylliannolGolygu

Mae canllawiau diagnostig cyfredol, sef y DSM ac i ryw raddau yr ICD, wedi cael eu beirniadu am fod â rhagolwg sylfaenol Ewro-Americanaidd, yn hytrach na byd-eang. Gan hyrwyddo dull mwy sensitif o ran diwylliannau gwahanoll, mae beirniaid fel Carl Bell a Marcello Maviglia yn dadlau bod ymchwilwyr a darparwyr gwasanaethau yn aml yn diystyru amrywiaeth diwylliannol ac ethnig unigolion.[37]

Mae cysyniadau clinigol o salwch meddwl hefyd yn gorgyffwrdd â gwerthoedd personol a diwylliannol ym mharth moesoldeb, i'r fath raddau fel y dadleuir weithiau fod gwahanu'r ddau yn amhosibl heb ailddiffinio hanfod bod yn berson arbennig, unigryw mewn cymdeithas.[38] Mewn seiciatreg glinigol, mae trallod ac anabledd parhaus yn dynodi anhwylder mewnol sydd angen triniaeth; ond mewn cyd-destun arall, gellir gweld yr un trallod ac anabledd fel dangosydd o frwydr emosiynol a'r angen i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol a strwythurol.[39][40] Mae'r ddeuoliaeth hon wedi arwain rhai academyddion a chlinigwyr i eiriol dros y cysyniad ôl-fodern o drallod meddwl a lles.[41][42]

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "Mental disorders". World Health Organization. 9 April 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2015. Cyrchwyd 2 February 2019.
  2. "Mental disorders". World Health Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 March 2016. Cyrchwyd 9 April 2016.
  3. Bolton, Derek (2008). What is Mental Disorder?: An Essay in Philosophy, Science, and Values. OUP Oxford. t. 6. ISBN 978-0-19-856592-5.
  4. 4.0 4.1 "Mental disorders". World Health Organization. October 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2015. Cyrchwyd 13 May 2015.
  5. American Psychiatric Association (2013). Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (arg. 5th). Arlington, VA: American Psychiatric Publishing. tt. 101–05. ISBN 978-0-89042-555-8.
  6. "Nutritional Psychiatry: Where to Next?". EBioMedicine 17 (17): 24–29. March 2017. doi:10.1016/j.ebiom.2017.02.020. PMC 5360575. PMID 28242200. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5360575.
  7. 7.0 7.1 "Mental Disorders". World Health Organization. World Health Organization. Cyrchwyd 20 July 2020.
  8. Diagnostic and statistical manual of mental disorders : DSM-5 (arg. 5th). Arlington, VA: American Psychiatric Association. 2013. t. 31. ISBN 9780890425541.
  9. "What is a mental disorder? A perspective from cognitive-affective science". Canadian Journal of Psychiatry 58 (12): 656–62. December 2013. doi:10.1177/070674371305801202. PMID 24331284.
  10. "What is a mental/psychiatric disorder? From DSM-IV to DSM-V". Psychological Medicine 40 (11): 1759–65. November 2010. doi:10.1017/S0033291709992261. OCLC 01588231. PMC 3101504. PMID 20624327. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3101504. "In DSM-IV, each of the mental disorders is conceptualized as a clinically significant behavioral or psychological syndrome or pattern that occurs in an individual and that is associated with present distress (e.g., a painful symptom) or disability (i.e., impairment in one or more important areas of functioning) or with a significantly increased risk of suffering death, pain, disability, or an important loss of freedom. In addition, this syndrome or pattern must not be merely an expectable and culturally sanctioned response to a particular event, for example, the death of a loved one. Whatever its original cause, it must currently be considered a manifestation of behavioral, psychological, or biological dysfunction in the individual. Neither deviant behavior (e.g., political, religious, or sexual) nor conflicts that are primarily between the individual and society are mental disorders unless the deviance or conflict is a symptom of a dysfunction in the individual, as described above."
  11. "What is a mental/psychiatric disorder? From DSM-IV to DSM-V". Psychological Medicine 40 (11): 1759–65. November 2010. doi:10.1017/S0033291709992261. OCLC 01588231. PMC 3101504. PMID 20624327. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3101504.
  12. American Psychiatric Association (2013). "Use of the Manual". Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (arg. 5th). American Psychiatric Publishing. doi:10.1176/appi.books.9780890425596.UseofDSM5. ISBN 978-0-89042-559-6.
  13. "Chapter 6 on mental, behavioural and neurodevelopmental disorders". ICD-11 for Mortality and Morbidity Statistics, 2018 version.
  14. Pickering, Neil (2006). The Metaphor of Mental Illness. Oxford University Press. t. 1. ISBN 978-0-19-853087-9.
  15. 15.0 15.1 "The diagnostic meaning of "nervous breakdown" among lay populations". Journal of Personality Assessment 71 (2): 242–52. October 1998. doi:10.1207/s15327752jpa7102_11. PMID 9857496.
  16. Mayo Clinic Mental Breakdown
  17. Australia, Healthdirect (14 February 2019). "Nervous breakdown". www.healthdirect.gov.au (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 March 2019.
  18. Gazzaniga, M.S., & Heatherton, T.F. (2006).
  19. 19.0 19.1 19.2 "Mental Health: Types of Mental Illness". WebMD. 1 July 2005. Cyrchwyd 29 September 2009.
  20. Office of the Surgeon General; Center for Mental Health Services; National Institute of Mental Health (1999). "The Fundamentals of Mental Health and Mental Illness". Mental Health: A Report of the Surgeon General. National Institute of Mental Health. tt. 26–50. ISBN 978-0-16-050300-9.
  21. "The DSM-IV and ICD-10 categories of recurrent [major] depressive and bipolar II disorders: evidence that they lie on a dimensional spectrum". Journal of Affective Disorders 92 (1): 45–54. May 2006. doi:10.1016/j.jad.2005.12.035. PMID 16488021.
  22. McIntyre, Roger S. (7 March 2017). "Mixed features and mixed states in psychiatry: from calculus to geometry" (PDF). Cambridge University Press. Cyrchwyd 23 October 2020.
  23. "Assessment and diagnosis of personality disorder: perennial issues and an emerging reconceptualization". Annual Review of Psychology 58 (1): 227–57. 2007. doi:10.1146/annurev.psych.57.102904.190200. PMID 16903806. https://semanticscholar.org/paper/66ec8c4239f08af9864a3577220e99ac22070a43.
  24. "Comparison of alternative models for personality disorders". Psychological Medicine 37 (7): 983–94. July 2007. doi:10.1017/S0033291706009482. PMID 17121690. http://wesscholar.wesleyan.edu/cgi/viewcontent.cgi?article=1251&context=div3facpubs.
  25. "Eating Disorders". National Alliance on Mental Illness (NAMI). Cyrchwyd 6 May 2019.
  26. "NIMH » Eating Disorders". www.nimh.nih.gov. Cyrchwyd 6 May 2019.
  27. "Age of onset of mental disorders: a review of recent literature". Current Opinion in Psychiatry 20 (4): 359–64. July 2007. doi:10.1097/YCO.0b013e32816ebc8c. PMC 1925038. PMID 17551351. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1925038.
  28. "Why do many psychiatric disorders emerge during adolescence?". Nature Reviews. Neuroscience 9 (12): 947–57. December 2008. doi:10.1038/nrn2513. PMC 2762785. PMID 19002191. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2762785.
  29. "Schizophrenia". Lancet 374 (9690): 635–45. August 2009. doi:10.1016/S0140-6736(09)60995-8. PMID 19700006.
  30. "Recovery from psychotic illness: a 15- and 25-year international follow-up study". The British Journal of Psychiatry 178 (6): 506–17. June 2001. doi:10.1192/bjp.178.6.506. PMID 11388966.
  31. "Long-term outcome of patients with schizophrenia: a review". Canadian Journal of Psychiatry 50 (14): 892–900. December 2005. doi:10.1177/070674370505001403. PMID 16494258.
  32. "A twin study of personality disorders". Comprehensive Psychiatry 41 (6): 416–25. December 2000. doi:10.1053/comp.2000.16560. PMID 11086146.
  33. "The genetic epidemiology of personality disorders". Dialogues in Clinical Neuroscience 12 (1): 103–14. 1 March 2010. doi:10.31887/DCNS.2010.12.1/trkjennerud. PMC 3181941. PMID 20373672. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3181941.
  34. "Prevention of anxiety disorders". International Review of Psychiatry 19 (6): 647–54. December 2007. doi:10.1080/09540260701797837. PMID 18092242.
  35. "Disruptive insights in psychiatry: transforming a clinical discipline". The Journal of Clinical Investigation 119 (4): 700–5. April 2009. doi:10.1172/jci38832. PMC 2662575. PMID 19339761. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2662575.
  36. American Psychiatric Association 3 May 2013 Release Number 13-33
  37. Vedantam, Shankar (26 June 2005). "Psychiatry's Missing Diagnosis: Patients' Diversity Is Often Discounted". The Washington Post.
  38. Clark, Lee Anna (2006). "The Role of Moral Judgment in Personality Disorder Diagnosis". Journal of Personality Disorders 20 (2): 184–85. doi:10.1521/pedi.2006.20.2.184.
  39. "Cultural differences in conceptual models of depression". Social Science & Medicine 60 (7): 1625–35. April 2005. doi:10.1016/j.socscimed.2004.08.011. PMID 15652693.
  40. Tilbury, Farida; Rapley, Mark (2004). "'There are orphans in Africa still looking for my hands': African women refugees and the sources of emotional distress". Health Sociology Review 13: 54–64. doi:10.5172/hesr.13.1.54.
  41. "Postpsychiatry: a new direction for mental health". BMJ 322 (7288): 724–7. March 2001. doi:10.1136/bmj.322.7288.724. PMC 1119907. PMID 11264215. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1119907.
  42. Lewis, Bradley (2000). "Psychiatry and Postmodern Theory". Journal of Medical Humanities 21 (2): 71–84. doi:10.1023/A:1009018429802.