Ann Brashares
Awdures Americanaidd sy'n sgwennu llyfrau i bobl ifanc, yw Ann Brashares (ganwyd 30 Gorffennaf 1967). Mae'n fwyaf nodedig am ei chyfrol The Sisterhood of the Traveling Pants. Mae hi'n byw yn Ninas Efrog Newydd gyda'i gŵr artist, Jacob Collins, a'i phlant Samuel, Nathaniel, Susannah ac Eseia.
Ann Brashares | |
---|---|
Ganwyd | 30 Gorffennaf 1967 Alexandria |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, awdur plant |
Gwefan | https://annbrashares.com/ |
Fe'i ganed yn Alexandria, Virginia ar 30 Gorffennaf 1967. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Barnard a Phrifysgol Columbia. [1]
Magwraeth
golyguFe'i magwyd yn Chevy Chase, Maryland gyda’i thri brawd. Mynychodd Ysgol Ffrindiau Sidwell yn Washington, D.C.. Ar ôl astudio athroniaeth yng Ngholeg Barnard, bu'n gweithio fel golygydd ar 17th Street Productions. Prynwyd 17th Street gan Alloy Entertainment, ac yn dilyn y caffaeliad bu'n gweithio'n am gyfnod byr i Alloy.[2][3][4]
Ar ôl gadael Alloy ysgrifennodd The Sisterhood of the Traveling Pants (2001), a ddaeth yn werthwr gorau, rhyngwladol. Fe'i dilynwyd gyda thri theitl arall yn y gyfres "Pants" sef The Second Summer of the Sisterhood (2003), Girls in Pants: The Third Summer of the Sisterhood (2005) a Forever in Blue: The Fourth Summer of the Sisterhood ( 2007). Addaswyd y llyfr cyntaf yn y gyfres i'r ffilm The Sisterhood of the Traveling Pants yn 2005. Rhyddhawyd y dilyniant, The Sisterhood of the Traveling Pants 2, yn seiliedig ar y tair nofel arall yn y gyfres ym mis Awst 2008. Rhyddhawyd nofel gyntaf Brashares i oedolion, rhyddhawyd The Last Summer (of You and Me) yn 2007.
Cyhoeddwyd cydymaith cyntaf i'r gyfres Sisterhood, 3 Willows: The Sisterhood Grows, yn 2009, a chyhoeddwyd yr ail lyfr cydymaith, Sisterhood Everlasting, yn 2011. Cyhoeddwyd ei hail nofel i oedolion, My Name is Memory yn 2010 ac mae wedi'i dewis ar gyfer ffilm.
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 16 Ebrill 2015
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 4 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: "Ann Brashares". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ann Brashares".