Anna McMorrin

gwleidydd Cymreig ac AS

Gwleidydd Llafur Prydeinig yw Anna McMorrin (ganwyd 1971), ac yr AS[1] dros Ogledd Caerdydd.[2][3]

Anna McMorrin
AS
Aelod Seneddol
dros Ogledd Caerdydd
Yn ei swydd
Dechrau
8 Mehefin 2017
Rhagflaenydd Craig Williams
Mwyafrif 4,174 (8.0%)
Manylion personol
Ganwyd 1971
Plaid wleidyddol Y Blaid Lafur

Bywyd cynnar golygu

Magwyd McMorrin ger Aberhonddu. Wedi ymuno â'r Blaid Lafur eisoes, graddiodd o Brifysgol Southampton ym 1994 â gradd BA mewn Ffrangeg a Gwleidyddiaeth. Yn 1997, graddiodd o Brifysgol Caerdydd, gyda diploma ôl-radd mewn newyddiaduraeth.[4]

Gyrfa golygu

Wedi graddio, gweithiodd McMorrin yn y maes  cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu. Ar ôl gweithio yn rhan-amser fel swyddog cyfathrebu ar gyfer y Blaid Lafur yn 1996/7, bu'n gweithio fel ymgynghorydd materion cyhoeddus ar gyfer Hill a Knowlton. Yn 2006, daeth yn gyfarwyddwr ymgyrchoedd a chyfathrebu Cyfeillion y Ddaear Cymru. Yn 2008, ymunodd â Llywodraeth Cymru, gan ddod yn ymgynghorydd arbenigol i'r Gweinidog Cyfoeth naturiol, Alun Davies. Yn 2014, symudodd o'r swydd yna i un arall o fewn Llywodraeth Cymru, cyn gadael i ddod yn gyfarwyddwr Llais Cyf. Ym mis Hydref 2016 ymunodd a Invicta Public Affairs.[5]

Bywyd personol golygu

Roedd McMorrin yn briod, ac mae ganddi ddwy ferch o'r berthynas honno. Ar ôl gwahanu o'i gŵr, yn 2014, cafodd ei symud o'i swydd yng ngweinyddiaeth Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru, wedi cychwyn perthynas gyda'r gweinidog ar y pryd, ac ei bos, Alun Davies,[6] a bellach mae'r ddau yn cyd-fyw yng Nghaerdydd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Parliament UK
  2. Ruth Mosalski (9 Mehefin 2017). "Who is Cardiff's new Labour MP Anna McMorrin?". Wales Online. Cyrchwyd 9 June 2017. More than one of |author= a |last= specified (help)
  3. "Labour's Anna McMorrin takes Cardiff North from the Tories - BBC News". Bbc.co.uk. Cyrchwyd 9 Mehefin 2017.
  4. Mosalski, Ruth (9 Mehefin 2017). "Who is Cardiff's new Labour MP Anna McMorrin?".
  5. https://www.linkedin.com/in/anna-mcmorrin-64989411/?ppe=1
  6. Shipton, Martin (20 Mai 2014). "Revealed: Concern over Minister, his specialist adviser and their relationship".
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Craig Williams
Aelod Seneddol dros Ogledd Caerdydd
2017
Olynydd:
deiliad