Alun Davies
Gwleidydd Cymreig, ac aelod o'r Blaid Lafur, yw Alun Davies (ganed 12 Chwefror 1964). Cynrychiolodd Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o 2007 hyd 2011, ac mae wedi cynrychioli Blaenau Gwent ers 2011.
Alun Davies AS | |
---|---|
![]() | |
Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus | |
Mewn swydd 3 Tachwedd 2017 – 13 Rhagfyr 2018 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Rhagflaenwyd gan | Carl Sargeant |
Dilynwyd gan | Julie James |
Aelod o'r Senedd dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 5 Mai 2011 | |
Rhagflaenwyd gan | Trish Law |
Mwyafrif | 650 (3.1%) |
Aelod Cynulliad dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru | |
Mewn swydd 3 Mai 2007 – 5 Mai 2011 | |
Rhagflaenwyd gan | Glyn Davies |
Dilynwyd gan | Rebecca Evans |
Manylion personol | |
Ganwyd |
12 Chwefror 1964 Tredegar, Sir Fynwy |
Plaid wleidyddol |
Llafur Cymru & Cydweithredol 2002-presennol Plaid Cymru 1990-2002[1] |
Priod | Anna McMorrin |
Alma mater | Prifysgol Aberystwyth |
Gwaith | Ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, dyn busnes a gwleidydd |
Gwefan | Blog Personol |
Gyrfa wleidyddolGolygu
Roedd Alun Davies yn Weinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd o Fawrth 2013 hyd at Orffennaf 2014. Cafodd ei ddiswyddo ar 8fed Gorffennaf wedi iddo wneud cais i wybod am daliadau PAC i bump Aelodau Cynulliad y gwrthbleidiau.[2] Dim ond wythnos yn gynharach, roedd Mr Davies wedi medru cadw ei swydd er iddo dorri'r Cod Ymddygiad Gweinidogol.[3] Cafodd Carwyn Jones, y prif weinidog ac arweinwr y blaid Lafur ar y pryd, hefyd ei feirniadu am beidio disgyblu'r gweinidog.[4]
Yn 2016 penodwyd Davies yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes lle roedd yn gyfrifol am strategaeth newydd i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg ac ail-drefnu y drefn addysg i ddysgwyr.
Ar 2 Tachwedd 2017, apwyntiwyd Davies yn Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.[5] Gadawodd y cabinet eto yn Rhagfyr 2018 yn dilyn ail-drefnu gan y Prif Weinidog newydd Mark Drakeford.[6]
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Glyn Davies |
Aelod Cynulliad dros Ranbarth Canol De Cymru 2007 – 2011 |
Olynydd: Rebecca Evans |
Rhagflaenydd: Trish Law |
Aelod o'r Senedd dros Flaenau Gwent 2011 – |
Olynydd: deiliad |
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Member Profile". National Assembly for Wales.
- ↑ "Alun Davies wedi cael ei ddiswyddo". Golwg360. 8 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Alun Davies wedi torri cod ymddygiad gweinidogol". Golwg360. 8 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Cyhuddo Carwyn o geisio claddu stori Alun Davies". Golwg360. 8 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Ex-Plaid leader is made culture minister". BBC News (yn Saesneg). 2017-11-03. Cyrchwyd 2017-11-03.
- ↑ "Wales' new first minister Mark Drakeford appoints his team". BBC News (yn Saesneg). 2018-12-13. Cyrchwyd 2018-12-13.