Anne Howells
Cantores opera mezzo-soprano oedd Anne Elizabeth Howells (12 Ionawr 1941 – 18 Mai 2022).
Anne Howells | |
---|---|
Ganwyd | 12 Ionawr 1941 Southport |
Bu farw | 18 Mai 2022 Andover |
Dinasyddiaeth | Y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerddor, canwr opera |
Math o lais | mezzo-soprano |
Priod | Ryland Davies, Stafford Dean |
Cafodd Howells ei geni yn Southport, Swydd Gaerhirfryn, yn ferch i Trevor Howells a Mona Howells (née Hewart).[1][2] Addysgwyd hi yn Ysgol Ramadeg Sale. Astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Manceinion [2] lle'r oedd ei hathrawon yn cynnwys Frederic Cox.[3]
Priododd Howells â Ryland Davies ym 1966. Ei hail gwr oedd Stafford Dean, o 1981 i 1988. Daeth y ddwy briodas i ben mewn ysgariad. Ei thrydedd briodas oedd â Peter Fyson (m. 2005). [1][3] Bu farw Howells o myeloma yn Andover, yn 81 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Barry Millington (5 Mehefin 2022). "Anne Howells obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Mehefin 2022.
- ↑ 2.0 2.1 Europa Publications (2003). The International Who's Who 2004 (yn Saesneg). Psychology Press. t. 761. ISBN 978-1-85743-217-6. Cyrchwyd 20 Mai 2017.
- ↑ 3.0 3.1 Kenneth Shenton (2022-06-05). "Anne Howells: British mezzo-soprano who conquered the world stage". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-14.