Anne of Green Gables

nofel gan Lucy Maud Montgomery

Mae Anne of Green Gables yn nofel a gyhoeddwyd gyntaf ym 1908 gan Lucy Maud Montgomery (o dan yr enw L. M. Montgomery). Wedi'i hysgrifennu ar gyfer pob oedran, fe'i hystyriwyd yn nofel glasurol i blant ers canol yr ugeinfed ganrif. Wedi'i gosod ar ddiwedd y 19eg ganrif, mae'r nofel yn adrodd anturiaethau Anne Shirley, merch amddifad 11 oed Mae'r nofel yn adrodd sut mae Anne yn ymlwybro trwy fywyd gyda'r teulu Cuthbert, yn yr ysgol, ac yn y dref.[1]

Anne of Green Gables
Clawr yr argraffiad 1af
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurLucy Maud Montgomery Edit this on Wikidata
CyhoeddwrL. C. Page & Company Edit this on Wikidata
GwladCanada Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi13 Mehefin 1908 Edit this on Wikidata
Genrenofel ddatblygiadol, nofel i blant Edit this on Wikidata
CyfresAnne of Green Gables Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganBefore Green Gables Edit this on Wikidata
Olynwyd ganAnne of Avonlea Edit this on Wikidata
CymeriadauAnne Shirley, Gilbert Blythe, Diana Barry, Marilla Cuthbert, Matthew Cuthbert, Rachel Lynde Edit this on Wikidata
Prif bwncimagination, plentyn amddifad, adoption Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAnne of Green Gables (1908)/Chapter I, Anne of Green Gables (1908)/Chapter II, Anne of Green Gables (1908)/Chapter III, Anne of Green Gables (1908)/Chapter IV, Anne of Green Gables (1908)/Chapter V, Anne of Green Gables (1908)/Chapter VII, Anne of Green Gables (1908)/Chapter VIII, Anne of Green Gables (1908)/Chapter IX Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
GwladwriaethCanada Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithPrince Edward Island, Avonlea, Green Gables Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Crynodeb Plot golygu

Anfonir Anne Shirley, plentyn amddifad ifanc o gymuned ffuglennol Bolingbroke, Nova Scotia (yn seiliedig ar gymuned go iawn New London, Prince Edward Island), i fyw gyda Marilla a Matthew Cuthbert, brawd a chwaer yn eu pumdegau a chwedegau. Yn wreiddiol, roedd Marilla a Matthew wedi penderfynu mabwysiadu bachgen o’r cartref plant amddifad i helpu Matthew i redeg eu fferm Green Gables, sydd wedi’i lleoli yn nhref ffuglennol Avonlea (yn seiliedig ar Cavendish, Prince Edward Island). Trwy gamddealltwriaeth, mae'r cartref plant yn anfon Anne.[2]

Mae Anne yn hogan siaradus, yn enwedig o ran disgrifio ei ffantasïau a'i breuddwydion. Ar y dechrau mae Marilla lem am ddychwelyd Anne i'r cartref plant, ond ar ôl llawer o ystyriaeth mae Matthew, a Marilla yn penderfynu gadael iddi aros.

Mae Anne yn llawenhau am ei bywyd newydd ac yn addasu'n gyflym, gan ffynnu yn y pentref ffermio clos.

Mae'r llyfr yn adrodd am frwydrau a llawenydd Anne wrth ymgartrefu yn Green Gables (y cartref go iawn cyntaf iddi gael): yr ysgol wledig lle mae'n rhagori yn gyflym yn ei hastudiaethau; ei chyfeillgarwch â Diana Barry, y ferch sy'n byw drws nesaf; ei huchelgeisiau llenyddol egnïol; a'i brwydrau gyda'i chyd-ddisgybl Gilbert Blythe, sy'n ei phryfocio am ei gwallt coch.[3] Am hynny, mae'n ennill ei chasineb ar unwaith, er ei fod yn ymddiheuro sawl gwaith. Er, wrth i amser fynd heibio, mae Anne yn sylweddoli nad yw hi bellach yn casáu Gilbert, mae ei balchder a’i ystyfnigrwydd yn ei chadw rhag rhoi maddeuant iddo.

Mae'r llyfr yn dilyn anturiaethau Anne yn Avonlea. Mae'n cynnwys penodau am ei amser yn chwarae gyda'i ffrindiau Diana, pwyllog, Jane Andrews diddig a Ruby Gillis hardd, sydd wedi gwirioni ar fechgyn. Mae hi'n cael ffrae gyda'r chwiorydd Pye annymunol, Gertie a Josie. Mae hi hefyd yn cael trafferthion domestig aml fel lliwio ei gwallt yn wyrdd wrth fwriadu ei liwio'n ddu, a meddwi Diana ar ddamwain trwy roi'r hyn y mae hi'n meddwl sy'n sudd mafon iddi ond sydd mewn gwirionedd yn win cyrens.

Yn un ar bymtheg oed, mae Anne yn mynd i Academi Queen's i ennill trwydded ddysgu, ynghyd â Gilbert, Ruby, Josie, Jane, a sawl myfyriwr arall, ac eithrio Diana, er mawr siom i Anne. Mae hi'n cael ei thrwydded mewn blwyddyn yn lle'r ddwy arferol ac yn ennill yr Ysgoloriaeth Avery a ddyfarnwyd i'r myfyriwr gorau yn Saesneg. Byddai'r ysgoloriaeth hon yn caniatáu iddi ddilyn gradd Baglor yn y Celfyddydau yng Ngholeg ffuglennol Redmond (wedi'i seilio ar Brifysgol Dalhousie go iawn) ar dir mawr Nova Scotia.

Wrth i'r llyfr tynnu at ei therfyn mae trasiedi yn digwydd sy'n newid cynlluniau Anne. Mae Matthew yn marw o drawiad ar y galon ar ôl dysgu bod ei holl arian ef a Marilla wedi ei golli trwy i fanc methdalu. Allan o ymroddiad i Marilla a Green Gables, mae Anne yn rhoi’r gorau i’r ysgoloriaeth i aros gartref a helpu Marilla, sydd yn ddechrau colli ei golwg. Mae'n bwriadu dysgu yn ysgol Carmody, yr ysgol agosaf sydd ar gael, a dychwelyd i Green Gables ar benwythnosau. Mewn gweithred o gyfeillgarwch, mae Gilbert Blythe yn rhoi’r gorau i’w swydd ddysgu yn Ysgol Avonlea i weithio yn Ysgol White Sands yn lle, gan wybod bod Anne eisiau aros yn agos at Marilla ar ôl marwolaeth Matthew. Ar ôl y weithred garedig hon, mae cyfeillgarwch Anne a Gilbert yn cael ei smentio, ac mae Anne yn edrych ymlaen at yr hyn a ddaw nesaf yn ei bywyd.

Cymeriadau golygu

Teulu Green Gables [4] golygu

  • Anne Shirley: Hogan amddifad ddychmygus, siaradus, efo gwallt coch sy'n mynd i fyw gyda Matthew a Marilla Cuthbert yn 11 oed. Mae Anne yn sensitif iawn ac yn casáu lliw ei gwallt. Treuliwyd plentyndod cynnar llwm Anne yn cael ei danfon o gartrefi plant amddifad i gartrefi maeth, gan ofalu am blant iau. Mae hi'n gyffrous i gael ei chartref go iawn cyntaf yn Green Gables.
  • Marilla Cuthbert: Chwaer Matthew, dynes lem ond teg sydd â "llygedyn o synnwyr digrifwch." Mae ei bywyd wedi bod yn ddi-liw a heb lawenydd nes i Anne gyrraedd. Mae hi'n ceisio meithrin disgyblaeth yn y plentyn, ond mae'n tyfu i garu bywiogrwydd a llawenydd Anne.
  • Matthew Cuthbert: Brawd Marilla, dyn swil, caredig sydd â hoffter o Anne o'r dechrau. Daw'r ddau yn ffrindiau'n gyflym, ac ef yw'r person cyntaf sydd erioed wedi dangos cariad diamod i Anne. Er mai Marilla sydd â'r prif gyfrifoldeb am fagu Anne, nid oes gan Matthew unrhyw betruster ynghylch ei "difetha" trwy ganiatáu iddi wisgo dillad tlws a gwamalrwydd tebyg

Cyd-ddisgyblion Anne golygu

  • Diana Barry: Ffrind mynwesol Anne sydd ag ysbryd caredig. Daw Anne a Diana yn ffrindiau gorau o'r eiliad y maent yn cwrdd. Hi yw'r unig ferch o'r un oedran ag Anne sy'n byw yn agos at Green Gables. Mae Anne yn edmygu Diana am fod yn bert gyda gwallt du a gwedd ddiddiffyg ac am ei gwarediad hawddgar. Nid oes gan Diana ddychymyg mor fyw ag Anne ond mae'n ffrind ffyddlon.
  • Gilbert Blythe: Cyd-ddisgybl golygus, craff, a ffraeth, ddwy flynedd yn hŷn nag Anne, sydd yn ffansio hi. Yn anymwybodol o sensitifrwydd Anne am ei gwallt coch, mae'n ceisio cael ei sylw trwy ddal ei chadish a'i galw'n "Moron" yn yr ystafell ddosbarth. Mewn dial mae hi'n torri llechen dros ei ben. Er gwaethaf ei ymdrechion i ymddiheuro, mae dicter ac ystyfnigrwydd Anne yn ei hatal rhag siarad ag ef am sawl blwyddyn. Erbyn diwedd y llyfr fodd bynnag, maent yn cymodi ac yn dod yn ffrindiau da
  • Ruby Gillis: Un arall o ffrindiau Anne. Gan fod ganddi nifer o chwiorydd hŷn gyda chariadon mae Ruby wrth ei bodd yn rhannu ei gwybodaeth am fechgyn gyda'i ffrindiau. Mae Ruby yn brydferth, gyda gwallt hir euraidd.
  • Jane Andrews: Yn un o ffrindiau Anne o'r ysgol, mae hi'n blaen ac yn gall. Mae hi'n gwneud yn ddigon da yn academaidd i ymuno â dosbarth Anne yn Queen's.
  • Josie Pye: Yn gyd-ddisgybl nad yw merched eraill yn hoff ohoni yn gyffredinol (nac yn hoff o'i chwiorydd chwaith), mae Josie yn ofer, yn anonest, ac yn genfigennus o boblogrwydd Anne

Pobl leol Avonlea golygu

  • Rachel Lynde: Cymydog i Matthew a Marilla, mae Mrs. Lynde yn berson nodedig am fod yn fusneslyd, ond mae hefyd yn weithgar ac elusennol. Er ei bod hi ac Anne yn cychwyn ar y droed anghywir, oherwydd beirniadaeth ddi-flewyn-ar-dafod Mrs. Lynde a thymer fer Anne, buan iawn y dônt yn eithaf agos. Mae Mrs. Lynde yn briod â Thomas Lynde ac mae wedi magu deg o blant.
  • Mr Phillips: Athro cyntaf Anne yn Avonlea. Mae Mr Phillips yn amhoblogaidd ymysg ei ddisgyblion. Yn achos Anne, mae'n camsillafu ei henw yn barhaus (heb yr "E") ac yn ei chosbi hi yn unig o'r deuddeg disgybl sy'n cyrraedd yn hwyr. Unwaith, cosbodd Anne am golli ei thymer gyda Gilbert Blythe. Fe'i disgrifir fel un a diffyg disgyblaeth bersonol, mae'n canlyn un o'i ddisgyblion hŷn heb geisio cuddio'r ffaith.
  • Miss Muriel Stacy: Athrawes egnïol newydd Anne. Mae ei natur gynnes a chydymdeimladol yn apelio at ei ddisgyblion, ond mae rhai o rieni mwy hen ffasiwn Avonlea yn anghymeradwyo ei dulliau o ddysgu. Mae Miss Stacy yn "ysbryd caredig" y mae Anne yn ei ystyried yn fentor. Mae Miss Stacy yn annog Anne i ddatblygu ei chymeriad a'i deallusrwydd ac yn helpu i'w pharatoi ar gyfer yr arholiad mynediad i Academi Queen's.
  • Y Parchedig a Mrs. Allan: Mae'r gweinidog a'i wraig hefyd yn gyfeillgar ag Anne, gyda Mrs. Allan yn dod yn arbennig o agos. Fe'i disgrifir fel un tlws ac mae'n "ysbryd caredig" arall
  • Mr a Mrs. Barry: Rhieni Diana. Mae Mr Barry yn ffermio. Yn agos at ddiwedd y llyfr, mae'n cynnig rhentu rhai darnau i helpu Anne a Marilla, ar ôl marwolaeth Matthew. Mae Mrs. Barry yn rhiant llym. Ar ôl i Anne feddwi Diana ar ddamwain, mae Mrs. Barry yn gwahardd Diana rhag bod yn gyfeillgar ag Anne. Mae hi'n newid ei feddwl ar ôl i Anne achub y ferch ieuengaf Minnie May.

Minnie May Barry: Chwaer fach Diana, y mae Anne yn achub ei bywyd pan fydd yn cael ei heintio â chrŵp.

Eraill golygu

  • Miss Josephine Barry: hen fodryb Diana. Mae hi'n llym i ddechrau, ond mae dychymyg Anne yn ei swyno a'i difyrru'n gyflym, ac mae'n ei gwahodd hi a Diana i de. Mae hi'n cyfeirio at Anne fel "y ferch Anne yna" ac yn anfon sliperi gleiniog i Anne fel anrheg Nadolig.
  • Mrs. Hammond: Mae Anne yn byw gyda hi am gyfran o'i bywyd cyn Green Gables ac yn gofalu am dair set o efeilliaid Mrs. Hammond. Anfonir Anne i gartref plant amddifad Hopetown pan orfodir Mrs. Hammond i chwalu ei chartref ar ôl marwolaeth sydyn ei gŵr.

Gweithiau cysylltiedig golygu

Wedi poblogrwydd ei llyfr cyntaf, ysgrifennodd Montgomery gyfres o lyfrau olynol i barhau â stori ei harwres Anne Shirley. Fe'u rhestrir yn gronolegol isod, yn ôl oedran Anne ym mhob un o'r nofelau.

Llyfrau Lucy Maud Montgomery am Anne Shirley:
Rhif Llyfr Dyddiad cyhoeddi Oedran Anne Shirley Cyfnod y stori
1 Anne of Green Gables 1908 11–16 1876–1881
2 Anne of Avonlea 1909 16–18 1881–1883
3 Anne of the Island 1915 18–22 1883–1887
4 Anne of Windy Poplars (Canada ac UDA)

Anne of Windy Willows (DU ac Awstralia)

1936 22–25 1887–1890
5 Anne's House of Dreams 1917 25–27 1890–1892
6 Anne of Ingleside 1939 34–40 1899–1905
Mae'r llyfrau isod yn canolbwyntio ar blant Anne, neu ar ffrindiau a theulu eraill. Mae Anne yn ymddangos yn y cyfrolau hyn, ond mae'n chwarae rhan lai.
Rhif Llyfr Dyddiad cyhoeddi Oed Anne Shirley Cyfnod y stori
7 Rainbow Valley 1919 41–43 1906–1908
8 Rilla of Ingleside 1921 49–53 1914–1918
9 The Blythes Are Quoted 2009 40–75 1905–1940
Mae Anne Shirley yn ymddangos mewn un stori (a chyfeirir ati mewn straeon eraill) ym mhob un o'r casgliadau canlynol:Anne of Green Gables
Rhif Llyfr Dyddiad cyhoeddi Oed Anne Shirley Cyfnod y stori
Chronicles of Avonlea 1912 tua. 20 1885
Further Chronicles of Avonlea 1920 tua. 20 1885

Ysgrifennwyd y rhaghanes, Before Green Gables (2008), gan Budge Wilson gydag awdurdodiad etifeddion L. M. Montgomery.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Anne of Green Gables | Summary, Characters, & Facts". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-01-20.
  2. Montgomery, Lucy Maud (1908). Anne Of Green Gables. Copi am ddim ar Internet Archive.
  3. "Anne of Green Gables | Lucy Maud Montgomery | Lit2Go ETC". etc.usf.edu. Cyrchwyd 2020-01-20.
  4. "SparkNotes: Anne of Green Gables: Character List". www.sparknotes.com. Cyrchwyd 2020-01-20.
  5. Wilson, Budge. (2008). Before Green Gables. New York: G.P. Putnam's Sons. ISBN 978-0-399-15468-3. OCLC 233173795.

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth Lucy Maud Montgomery