Antar
Roedd Antar, neu Antarah Ibn Shaddād Al-'Absi (Arabeg: عنترة بن شداد) (bl. 6g), yn fardd yn yr iaith Arabeg ac yn rhyfelwr enwog.
Antar | |
---|---|
Ganwyd | 525 Najd |
Bu farw | 608 Ḥaʼil Province |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Blodeuodd | 6 g |
Cafodd ei eni tua dechrau'r 6g yn yr anialwch rywle yng nghyffiniau dinas Medina (gorllewin canolbarth Saudi Arabia heddiw), yn fab i bennaeth Bedouin a chaethferch ddu. Roedd hyn yn y cyfnod cyn-Islamaidd.
Cyfansoddodd nifer o awdlau arwrol, a chyfrifir un ohonynt yn un o saith 'Awdl Aur' llenyddiaeth Arabeg.
Daeth yn arwr llên gwerin. Dethlir ei fywyd yn y chwedl arwrol Rhamant Antar (10g), sy'n adrodd ei helyntion niferus er mwyn cael priodi ei gariad Abla.