Sawdi Arabia
Gwlad fawr ar orynys Arabia yn ne-orllewin Asia yw Teyrnas Sawdi Arabia neu Sawdi Arabia (Arabeg: المملكة العربية السعودية; sef Al Mamlaka al ʻArabiyya as Suʻūdiyya). Hi yw'r wlad Arabaidd fwyaf yng Ngorllewin Asia gydag oddeutu 2,150,000 km2 (830,000 mi sgw) a'r ail wlad Arabaidd fwyaf, yn dilyn Algeria. Y gwledydd cyfagos yw Irac a Ciwait i'r gogledd-ddwyrain, Gwlad Iorddonen i'r gogledd-orllewin, Oman, Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig i'r dwyrain a Iemen i'r de-orllewin. Mae gan Saudi arfordir ar lan Y Môr Coch i'r gorllewin a Gwlff Persia i'r dwyrain. Anialwch yw'r rhan fwyaf o ganolbarth y wlad. Riyadh yw'r brifddinas. Mae ei phoblogaeth oddeutu 28.7 million, gyda 8 miliwn o'r rheiny o'r tu allan i'r wlad.[1][2][3][4]
| |
![]() | |
Arwyddair |
لَا إِلٰهَ إِلَّا ٱلله مُحَمَّدٌ رَسُولُ ٱلله ![]() |
---|---|
Math |
gwladwriaeth sofran, teyrnas, gwlad ![]() |
Enwyd ar ôl |
Saud I ![]() |
![]() | |
Prifddinas |
Riyadh ![]() |
Poblogaeth |
33,000,000 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem |
National Anthem of Saudi Arabia ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Salman ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+03:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Arabeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
2,250,000 ±1 km² ![]() |
Gerllaw |
Gwlff Persia, Y Môr Coch, Gwlff Aqaba ![]() |
Yn ffinio gyda |
Gwlad Iorddonen, Coweit, Qatar, Bahrain, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Oman, Iemen, Irac, Yr Aifft ![]() |
Cyfesurynnau |
23.71667°N 44.11667°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Council of Ministers of Saudi Arabia ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Prime Minister of Saudi Arabia ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth |
Brenhinoedd Sawdi Arabia ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Salman ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Prime Minister of Saudi Arabia ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Salman ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan |
Founding Leaders of Saudi Arabia ![]() |
Arian |
Saudi riyal ![]() |
Canran y diwaith |
11 ±1 % ![]() |
Cyfartaledd plant |
2.765 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.853 ![]() |
Cyn i Ibn Saud uno'r wlad yn 1932 roedd pedair ardal: Hejaz, Najd a rhannau o Ddwyrain Arabia (Al-Hasa) a De Arabia (ardal 'Asir).[5] Llwyddodd i wneud hyn drwy gyfres o ymosodiadau milwrol gan gychwyn yn 1902 pan gymerodd Riyadh drwy rym milwrol; Riyadh oedd hen ddinas ei hynafiaid - sef y teulu'r Saud. Brenhiniaeth absoliwt yw'r wlad ers hynny, wedi'i llywodraethu gydag Islamiaeth yn ganllaw gadarn a dylanwad y Wahhabi.[6] Gelwir Sawdi Arabia weithiau'n "Wlad y Ddau Fosg", sef Al-Masjid al-Haram (yn Mecca), a Al-Masjid an-Nabawi (ym Medina), y ddau le mwyaf cysegredig yn Islam.
Domineiddir y byd olew gan Sawdi Arabia, fel cynhyrchydd a gwerthwr olew ac yno mae'r ail ffynhonnell fwyaf o olew drwy'r byd.[4] Oherwydd yr arian a ddaw o'r diwydiant olew, ystyrir y wald yn wlad gyfoethog iawn a'r economi'n 'incwm uchel'. Hon yw'r unig wlad Arabaidd sy'n aelod o'r grŵp G-20 a rhestrir hi'n 4ydd safle o ran gwariant y wlad ar arfau.[7][8] Mae'n aelod o Gyngor Gweithredol y Gwlff, Mudiad Cydweithio islamaidd ac OPEC.[9]
DaearyddiaethGolygu
HanesGolygu
GwleidyddiaethGolygu
Mae gwleidyddiaeth y wlad, ers ei sefydlu yn 1932, yn cael ei rheoli gan y frenhiniaeth absoliwt; olynwyd Ibn Saud gan ei feibion: Saud (1953-64), Faisal (1964-75), Khalid (1975-82), Fahd (1982-2005), Abdullah (2005-2015) a Salman (2015 - y presennol).
Mae'r 'Arwydd' neu'r 'Faner' Frenhinol, yn cynnwys geiriau mewn math o Arabeg a elwir yn Thulutheg, cleddyf symbolaidd ac arfbais y teulu brenhinol yn y gornel dde isaf, mewn aur.
Ceir arni ddatganiad Islamaidd o'u ffydd (neu'r shahada):
- لَا إِلٰهَ إِلَّا الله مُحَمَّدٌ رَسُولُ الله
- lā ʾilāha ʾillā-llāh, muhammadun rasūlu-llāh
- Nid oes duw ond Duw; Muhammad yw negesydd (neu broffwyd) Duw.[10]
Yn ôl gorchymyn brenhinol 1992, mae'n rhaid i'r brenin gydymffurfio gyda chyfraith Islamaidd Sharia, a'r Coran, ac mae'r Coran a'r Sunnah (Traddodiadau Mohammed) ar y cyd yn cael eu hystyried fel Cyfansoddiad swyddogol y wlad. Ni chaniateir unrhyw bleidiau gwleidyddol. Mae'r 'Economist' yn graddoli'r wlad - allan o gyfanswm o 167 o wledydd - fel y pumed gwlad mwayf awdurdodol a llym; o ran 'damocratiaeth mae'n ei rhestru fel y gwaethaf oll (2013).[11]
Gan fod enw'r wlad ("Saudi") yn dod o'r gair Arabeg as-Suʻūdīyah, sef enw'r teulu "Saud" (السعود), fe'i hystyrir yn ansoddair sy'n ddatganiad pwerus mai eiddo'r teulu Saud, mewn gwirionedd, yw'r wlad.[12][13] Sefydlydd y teulu (o ran cofnodi'r enw) oedd Muhammad bin Saud]].[14] yn y 18g. Mae'r gwledydd hynny nad ydynt yn cydnabod hawl y teulu Saudi i reoli'r wlad (e.e. Iraq) yn galw'r wlad "Tir yr Haramayn" (sef "Tir y Ddau Le Sanctaidd" - Mecca a Medinia.[15]
Hawliau dynolGolygu
Gwahaniaethir o ran rhyw yn swyddogol. Ni chaniateir i fenywod yrru car. Heb ganiatâd dyn ni chaniateir i ferched ychwaith wneud cais am basbort, teithio i unrhyw fan, derbyn addysg uwch na phriodi.[16]
Rheolir penodiadau i swyddi allweddol y wasg gan y Llywodraeth e.e. golygyddion papurau newydd, cynhyrchwyr teledu. Cosbir unrhyw feirniadaeth o'r Llywodraeth neu'r teulu brenhinol gan ddeng mlynedd o garchar.
Yn 2013, yn ôl Amnest Rhyngwladol lladdwyd 79 o bobl yn gyhoeddus am dorri'r gyfraith, y rhan fwyaf drwy dorri eu pennau.
Mae gweithredoedd hoyw yn cael eu hystyried yn anghyfreithlon, a chosbir hoywon gyda'r gosb eithaf, neu ysbaddiad cemegol.
- Crefyddau eraill
Nid oes hawl i ddinesydd Shia ddal swyddi mewn rhai meysydd fel dysgu hanes mewn ysgolion. Ychydig iawn o ddinasyddion Shia sy'n cyrraedd y sector uwchradd a nemor dim o fewn system llywodraeth y wlad.
Iaith a diwylliantGolygu
Arabeg yw iaith y wlad. Mae'r trigolion bron i gyd yn Arabiaid Mwslim ac mae'r wlad yn cynnwys Mecca, dinas sanctaidd Islam.
EconomiGolygu
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan Saesneg CIA World Factbook
- ↑ Saudi Arabia profile
- ↑ "Saudi Arabia Launches New Housing Scheme To Ease Shortage".
- ↑ 4.0 4.1 "Demography of Religion in the Gulf". Mehrdad Izady. 2013.
- ↑ Madawi Al-Rasheed (2013). A Most Masculine State: Gender, Politics and Religion in Saudi Arabia. t. 65.
- ↑ Focus on Islamic Issues – Tud 23, Cofie D. Malbouisson – 2007
- ↑ The Military Balance 2014: Top 15 Defence Budgets 2013 (IISS)
- ↑ "The 15 countries with the highest military expenditure in 2013 (table)" (PDF). Stockholm International Peace Research Institute. Cyrchwyd 14 Ebrill 2014.
- ↑ "The erosion of Saudi Arabia's image among its neighbours". Middleeastmonitor.com. 2013-11-07. Cyrchwyd 2014-04-04.
- ↑ "About Saudi Arabia: Facts and figures ". The Royal Embassy of Saudi Arabia, Washington D.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-17. Cyrchwyd 24 Ebrill 2012.
- ↑ (2013 edition behind paywall) Democracy index 2012 Democracy at a standstill (PDF). The Economist Intelligence Unit. 2012. Cyrchwyd 13 Hydref 2014. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ Wilson, Peter W.; Graham, Douglas (1994). Saudi Arabia: the coming storm. t. 46. ISBN 1-56324-394-6.
- ↑ Kamrava, Mehran (2011). The Modern Middle East: A Political History Since the First World War. t. 67. ISBN 978-0-520-26774-9.
- ↑ Hariri-Rifai, Wahbi; Hariri-Rifai, Mokhless (1990). The heritage of the Kingdom of Saudi Arabia. t. 26. ISBN 978-0-9624483-0-0.
- ↑ "Islamic State sets sights on Saudi Arabia". http://www.bbc.com/news/world-europe-30061109. BBC. Check date values in:
|accessdate=
(help); External link in|website=
(help); Missing or empty|url=
(help);|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ Papur yr Independent; 24 Ionawr 2015 tudalen 5