Anthony Bourdain
Cogydd, awdur, a chyflwynydd rhaglenni dogfen teithio teledu Americanaidd oedd Anthony Michael Bourdain (25 Mehefin 1956 – 8 Mehefin 2018).
Anthony Bourdain | |
---|---|
Ganwyd | Anthony Michael Bourdain 25 Mehefin 1956 Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 8 Mehefin 2018 Kaysersberg-Vignoble |
Man preswyl | Manhattan |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cogydd, llenor, nofelydd, pen-cogydd, cyflwynydd teledu, awdur ysgrifau, teithiwr, newyddiadurwr, cynhyrchydd teledu |
Cyflogwr | |
Priod | Nancy Putkoski, Ottavia Busia |
Partner | Asia Argento |
Gwefan | https://www.britannica.com/biography/Anthony-Bourdain |
Ar ôl iddo raddio o Culinary Institute of America ym 1978 cafodd yrfa hir fel cogydd mewn ceginau proffesiynol amrywiol, gan gynnwys blynyddoedd lawer a dreuliodd fel cogydd gweithredol yn Brasserie Les Halles ym Manhattan, Efrog Newydd. Roedd ei lyfr Kitchen Confidential (2000) yn llwyddiannus yn rhyngwladol. Mae'r llyfr yn edrych y tu ôl i'r llenni mewn ceginau bwyty, gan bwysleisio dwyster, annymunolrwydd a helynt y proffesiwn coginio. Daeth ag enwogrwydd rhyngwladol iddo.
Parhaodd ei sioe deledu gyntaf ar thema bwyd a theithio, A Cook's Tour, am 35 pennod ar y Food Network yn 2002 a 2003. Wedyn ymunodd â'r Travel Channel i fod yn gyflwynydd y rhaglenni o fath tebyg, Anthony Bourdain: No Reservations (2005–12) a The Layover (2011–13). Yn 2013, cyflwynodd Anthony Bourdain: Parts Unknown ar gyfer CNN.
Yn ogystal â'i lyfrau ar anturiaethau bwyd a choginio a theithio, ysgrifennodd ffuglen a ffeithiol hanesyddol hefyd.
Ar 8 Mehefin 2018 lladdodd Bourdain ei hun tra yn Ffrainc yn recordio deunydd ar gyfer ei raglen Parts Unknown.
Llyfryddiaeth
golyguFfeithiol
golygu- Kitchen Confidential: Adventures in the Culinary Underbelly (2000)
- A Cook's Tour: In Search of the Perfect Meal (2001)
- Typhoid Mary (2001)
- Anthony Bourdain's Les Halles Cookbook: Strategies, Recipes, and Techniques of Classic Bistro Cooking (2004)
- The Nasty Bits: Collected Cuts, Useable Trim, Scraps and Bones (2006)
- No Reservations: Around the World on an Empty Stomach (2007)
- Medium Raw: A Bloody Valentine to the World of Food and the People Who Cook (2010)
- Appetites: A Cookbook (2016)
Ffuglen
golygu- Bone in the Throat (1995)
- Gone Bamboo (1997)
- The Bobby Gold (2001)
- Get Jiro! (nofel graffig; gyda Joel Rose) (2013)
- Get Jiro: Blood and Sushi (nofel graffig; gyda Joel Rose) (2016)