Manhattan

bwrdeistref Dinas Efrog Newydd

Un o bum bwrdeistref Dinas Efrog Newydd yw Manhattan. Gyda phoblogaeth o fwy na 1.6 miliwn yn byw mewn ardal o 59 cilometr sgwâr, dyma'r ardal mwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau gyda mwy na 27,000 o drigolion i bob cilometr sgwâr. Manhattan yw'r sir fwyaf cyfoethog yn yr Unol Daleithiau, gyda incwm personol o dros $100,000 y pen yn 2005. Mae'r fwrdeistref yn cynnwys Ynys Manhattan, Ynys Roosevelt, Ynys Randalls, bron i un rhan o ddeg o Ynys Ellis, y rhan uwch y dwr i Ynys Liberty, sawl ynys llai a rhan fechan o'r prif dir Talaith Efrog Newydd gyferbyn a'r Bronx.

Manhattan
Mathbwrdeistref Dinas Efrog Newydd, consolidated city-county Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlYnys Manhattan Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,694,251 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1624 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethGale Brewer Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, UTC−04:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd33.58 mi² Edit this on Wikidata
Uwch y môr85 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon y Dwyrain, Afon Hudson, Bae Efrog Newydd Uchaf, Afon Harlem, Spuyten Duyvil Creek Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaY Bronx, Queens, Brooklyn, Weehawken, Ynys Staten, Hoboken, Jersey City, Guttenberg, Edgewater, Fort Lee, North Bergen, West New York Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.7283°N 73.9942°W Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethGale Brewer Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Manhattan o fewn Dinas Efrog Newydd

I bob pwrpas ymarferol mae'r un endid ag Efrog Newydd County sy'n un o'r siroedd yn nhalaith Efrog Newydd.

Mae Manhattan yn ganolfan fasnachol, ariannol a diwylliannol yr Unol Daleithiau a'r byd. Lleolir y rhan fwyaf o gwmnïau radio, teledu a chyfathrebu technolegol yr Unol Daleithiau yma, ynghyd â nifer o gyhoeddwyr llyfrau a chylchgronau. Mae gan Manhattan nifer o leoliadau byd enwog, atyniadau twristaidd, amgueddfeydd a phrifysgolion. Yma hefyd mae pencadlys y Cenhedloedd Unedig. Ym Manhattan mae ardal fusnes fwyaf yr Unol Daleithiau, ac yma mae Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd a NASDAQ. Yn ddi-os, dyma canol Dinas Efrog Newydd ac ardal metropolitaidd Efrog Newydd, a lleolir cynulliad y ddinas a'r canran fwyaf o waith, busnes a gweithgareddau hamdden.

Tarddia'r enw "Manhattan" o'r gair "Manna-hata", fel y cyfeirir ato yn llyfr log Robert Juet, swyddog ar long Henry Hudson, y Halve Maen (Hanner Lleuad) ym 1609. Dengys fap yn darlunio'r enw "Manahata" ddwywaith, ar ochr ddwyreiniol a gorllewinol "Afon Mauritius" (a enwyd yn ddiweddarach yn Afon Hudson). Mae'r gair "Manhattan" wedi cael ei gyfieithu fel "ynys o sawl mynydd" o'r iaith Lepane.

Llun lloeren o Manhattan