Apollo 8
Taith cyntaf dyn i'r Lleuad oedd Apollo 8. Lawnsiwyd gan NASA ar 21 Rhagfyr 1968 o Cape Kennedy (Canaveral), Fflorida fel rhan o raglen Apollo. Y tri aelod criw oedd Frank Borman, James Lovell, a William Anders. Nid oedd y modiwl glanio ar gael eto oherwydd problemau cynllunio, felly penderfynwyd anfon y prif long ofod i'r lleuad heb fodiwl glanio, gyda'r bwriad o brofi'r techneg o roi'r cerbyd i mewn i orbit lleuadol.
Criw Apollo 8 | |
Enghraifft o'r canlynol | taith ofod gyda phobol, lloeren |
---|---|
Màs | 4,979 cilogram, 28,870 cilogram |
Rhan o | Rhaglen Apollo |
Rhagflaenwyd gan | Apollo 7 |
Olynwyd gan | Apollo 9 |
Gweithredwr | NASA |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Hyd | 529,242 eiliad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Digwyddodd hyn yn llwyddiannus ar 24 Rhagfyr, a cwblhaodd y cerbyd ddeg orbit o'r lleuad cyn dychwelyd i'r ddaear. Er nad oeddent yn medru glanio ar y lleuad, gwelwyd y daith ofod hon, yn yr Unol Daleithiau, fel buddugoliaeth enfawr yn y gystadleuaeth gyda'r Undeb Sofietaidd i roi dynion ar y lleuad. Darganfyddwyd wedyn bod cynllun i anfon cosmonaut i'r lleuad tua'r un adeg, ond canslwyd y daith yn sgil llwyddiant Apollo 8. Dychwelodd James Lovell i'r lleuad ar y daith Apollo 13.