Rhaglen Apollo
Rhaglen deithiau NASA i'r gofod rhwng 1961 a 1975 oedd Rhaglen Apollo a'i bwriad i lanio bodau dynol ar y Lleuad. Ym 1961, cyhoeddodd John F. Kennedy, Arlywydd yr Unol Daleithiau, ei fwriad i lanio dyn ar y Lleuad cyn diwedd y ddegawd. Fe gyflawnwyd hynny ar 20 Gorffennaf, 1969 pan laniodd y gofodwyr Neil Armstrong a Buzz Aldrin ar wyneb y Lleuad, gyda Michael Collins mewn orbit, yn ystod taith Apollo 11. Bu pum taith olynol lle llwyddwyd i lanio gofodwyr ar y Lleuad, yr olaf ym 1972. Y chwe thaith ofod dan raglen Apollo yw'r unig droeon i bobol lanio ar blaned neu loeren y tu hwnt i'r Ddaear, ac yn aml caiff y glaniadau ar y Lleuad eu hystyried fel un o'r llwyddiannau technolegol mwyaf mewn hanes dynoliaeth.
Amheuaeth
golyguCeir peth tystiolaeth na fu gofodwyr y Rhaglen ar gyfyl y lleuad, eithr eu ffilmio mewn stiwdio enfawr.
Rhai o'r rocedi yn y gyfres
golyguCysylltiadau Cymreig
golyguRoedd Tecwyn Roberts, peiriannydd awyrenneg o Llanddaniel Fab, Ynys Môn, bennaeth Adran Cefnogaeth Hedfan â Chriw yng Nghanolfan Hedfan Gofod Goddard yn ystod Rhaglen Apollo yn 1965-1967. Yn 1967, daeth Tec Roberts yn bennaeth yr Adran Beirianneg Rhwydwaith, yn ystod y cyfnod lle glaniodd gofodwyr ar y Lleuad. [1] [2]
Cyfeiriadau
golygu