Apton

cwmni rhannu ffeiliau sain dros y we

Gwefan a gwasanaeth ffrydio cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig oedd Apton neu Aptôn[1], a lansiwyd yn Hydref 2016. Gellir gwrando ar y gerddoriaeth ar sawl dyfais, gan gynnwys y ffôn, tabled, cyfrifiadur ayb. Ceir 10,000 o draciau gan nifer o labeli, wedi'u dosbarth mewn sawl ffordd er mwyn fforio (neu fordwyo) drwyddynt yn hawdd: yn ôl arddull, artist neu'n ôl yr wyddor, neu fe ellir nodi enw'r artist neu'r albym yn y blwch chwilio. Trefnwyd a rheolir y wefan gan Sain Recordiau Cyf a Byd Apton Cyfyngedig, Llandwrog, Gwynedd. Ceir hefyd botwm ffefrynau ac mae modd gwrando ar draciau o’r rhestr chwarae all-lein.

Apton

Ciplun o wefan Gymraeg Apton
URL http://web.archive.org/web/20200702091425/https://apton.cymru/#/front
Masnachol? Ydy
Math o wefan Ffrydio cerddoriaeth
Cofrestru Wedi 6 mis
Ieithoedd ar gael Cymraeg a Saesneg
Trwydded gynnwys Hawlfraint Apton
Perchennog Cwmni Recordiau Sain
Byd Apton Cyfyngedig
Lansiwyd ar Hydref 2016
Statws cyfredol wedi darfod

Roedd mynediad i'r wefan am y mis cyntaf, am ddim, ac yna codir tanysgrifiad bychan. Nid oedd yn rhaid rhoi manylion cerdyn i gael mynediad am y mis cyntaf, cyfnod blasu. Ar ddiwedd y mis, codir £5 y mis am fynediad, neu £7.50 am wasanaeth ‘premiwm’ fydd yn caniatáu mynediad at fwy o ganeuon a thraciau unigryw oddi ar hen recordiau feinyl.[2] Buddsoddodd Sain £100,000 yn y fenter, gyda Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £30,000 arall.[3]

Haciwyd gwasanaeth Apton ychydig wedi iddi gael ei lansio gan hacwyr a fynnodd bridwerth o £200 i'w rhyddhau'n ôl i ddwylo'r perchennog. Ni wnaethpwyd hynny, a llwyddwyd i'w hailosod a diogelu'r gweinydd drwy ei uwchraddio. O fewn y mis cyntaf, roedd 1,300 o bobl wedi tanysgrifio ac erbyn dechrau 2020, roedd tua 3,000 o ddefnyddwyr.

Yn Ionawr 2020, dywedodd Sain na fyddai'r fenter yn gallu parhau heb gymorth ychwanegol. [3] Ymddengys nad yw'r wefan ar gael ers ail hanner 2020.

Cyfeiriadau golygu

  1. golwg360.cymru; adalwyd Chwefror 2017.
  2. Gwefan cymraeg.gov.wales;[dolen marw] adalwyd 10 Mawr 2017.
  3. 3.0 3.1 'Annhebygol' y gall ap Apton barhau heb fuddsoddiad , BBC Cymru Fyw, 16 Ionawr 2020. Cyrchwyd ar 16 Mai 2022.