Microgyfrifiadur wedi'i gyfuno â ffôn symudol sy'n fwy pwerus na'r ffôn symudol arferol yw'r ffôn clyfar (Saesneg: smartphone). Mae ganddo elfennau o'r cyfrifiadur yn ei grombil, gan gynnwys meddalwedd system weithredu. Mae hefyd yn medru derbyn ac anfon e-byst, yn galluogi'r defnyddiwr i gysylltu gyda'r rhyngrwyd, defnyddio meddalwedd sydd ar gael o siopau rhithwir, a chamera a system gwmpawd GPS. Erbyn Rhagfyr 2011 roedd gostyngiadau mewn prisiau yn golygu bod ffonau clyfar wedi dod yn llawer mwy poblogaidd.[1]

Ffonau clyfar gan Samsung (tu blaen).
Cefn y ffonau uchod
iPhone gan Apple; Gorffennaf 2007. Un o'r ffonau clyfar cyntaf.

Y math mwyaf poblogaidd o fatri a ddefnyddiwyd yn 2014 (a chyn hynny) yn y ffonau oedd y batri lithiwm-ion‎.

Gwerthiad byd-eang y ffôn clyfar, yn dangos goruchafiaeth Android.

Erbyn haf 2012 roedd dros un biliwn o bobl yn defnyddio ffôn clyfar. Roedd 2013 yn garreg filltir bwysig gan i fwy o ffonau clyfar gael eu gwerthu na'r ffonau symudol arferol. Erbyn 2019 roedd bron pob ffôn a gynhyrchwyd yn ffôn clyfar, ac felly, yn araf, cyfeiriwyd at y ffonau hyn heb y gair 'clyfar', gan ei gymryd yn ganiataol.[2][3]

Bancio

golygu

Cyflwynwyd nifer o systemau bancio ar-lein (e.e. Paypal) mor gynnar a'r 200au a gellid defnyddio rhain ar y ffôn, ond nid oedd yn bosib gwneud taliadau tan oddeutu 2016, gyda'r cwsmer yn mewnbynnu ei rif cyfrin (4 digid) sef ei rif PIN. Yn 2016, cyflwynwyd system a oedd yn galluogi'r defnyddiwr i dalu am nwyddau gyda'i ffôn mewn siopau; system ddi-gyswllt drwy dechnoleg NFC[4] neu neges ddiogel SMS[5].

Erbyn y 2010au, gan fod bron pob gwasanaeth bancio'nbosib ar ffôn, gwelwyd llawer o ganghennau banciau'n cau; caeewyd bron pob banc yn Ne Affrica a'r Philipinau.[6] Diflannod llawer o fanciau hefyd yng Nghymru, ond agorwyd rhagor o beiriannau arian mewn llefydd fel archfarchnadoedd.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Smartphones Can Replace These Everyday Items". Simple. Organized. Life. 10 Hydref 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-18. Cyrchwyd 2011-12-15.
  2. Don Reisinger (October 17, 2012). "Worldwide smartphone user base hits 1 billion". CNet. Cyrchwyd July 26, 2013.
  3. "Smartphones now outsell 'dumb' phones". 3 News NZ. Ebrill 29, 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Awst 1, 2013. Cyrchwyd Ebrill 29, 2013. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  4. near field communication
  5. short message service
  6. "Branchless banking to start in Bali". The Jakarta Post. 13 Ebrill 2012. Cyrchwyd 4 Mehefin 2012.
  Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato