Aquaman
Ffilm Americanaidd a ryddhawyd yn Rhagfyr 2018 yw Aquaman, ac a seiliwyd ar un o gymeriadau DC Comics, sef DC Aquaman. Cyfarwyddwyd y ffilm gan James Wan, yr awduron yw David Leslie Johnson-McGoldrick a Will Beall a'r dosbarthwr yw Warner Bros. Prif seren y film yw Jason Momoa ac mae'r ffilm hefyd yn serennu Amber Heard, Willem Dafoe, Patrick Wilson, Dolph Lundgren, Yahya Abdul-Mateen II, a Nicole Kidman.
Cyfarwyddwr | James Wan |
---|---|
Cynhyrchydd | Dc |
Ysgrifennwr | Geoff Johns James Wan Will Beall |
Serennu | Jason Momoa Amber Heard Willem Dafoe Patrick Wilson Nicole Kidman Dolph Lundgren |
Cerddoriaeth | Rupert Gregson-Williams |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Dc |
Dosbarthydd | Buena Vista Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 12 Rhagfyr 2018 |
Amser rhedeg | 143 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Arthur Curry, yw 'Aquaman', uchelwr i orsedd dinas tanddwr Atlantis. Erbyn hyn, mae'n gorfod camu ymlaen a dod yn arwr y mae wedi'i fwriadu i fod. Wedi ei ddal rhwng y wyneb y Ddaear a'r Deyrnas Danbaid, fe'i gorfodwyd i ymgodymu â'i deimladau cymysg ei hun am wisgo'r Goron, a bygythiad newydd sy'n dechrau dod i'r amlwg.
Plot
golyguLleolir y ffilm yn Maine, Lloegr Newydd (New England), UDA. Yno, yn 1985, mae ceidwad goleudy, sef Thomas Curry, yn achub Atlanna, Tywysoges y genedl danddwr Atlantes, yn ystod storm. Maent yn syrthio mewn cariad gyda'i gilydd, a genir mab iddynt o'r enw Arthur, a anwyd gyda'r pŵer i gyfathrebu ag anifeiliaid, pysgod a ffurfiau morol eraill. Gorfodir Atlanna i roi'r gorau i'w theulu a dychwelyd i Atlantes, gan ymddiried yn ei chynghorwr, Nuidis Vulko, i hyfforddi Arthur.
Arthur
golyguArthur yw'r prif gymeriad yn yr film. Mae'n cael eu chwarae gan Jason Momoa. Mae Arthur yn cael amser caled yn eu flynyddoedd cynar a chael ei fwlio am ei fod yn wahanol. Mae ganddo hanner-brawd, King Orm sydd yn cael ei chwarae gan Patrick Wilson.
Cymeriadau
golyguPrif gymeriadau [1]
- Jason Momoa - Arthur
- Amber Heard - Mera
- Willem Dafoe - Vulko
- Patrick Wilson - King Orm
- Nicole Kidman - Atlanna
- Dolph Lundgren - King Nereus
Gwobrau
golyguGwobr | Dyddiad seremoni | Categori | Derbynnydd ac enwebwyd | Canlyniad | Ref(s) |
---|---|---|---|---|---|
Alliance of Women Film Journalists | 10 Ionawr 2019 | Outstanding Achievement by A Woman in The Film Industry | Nicole Kidman for a banner year of performances in Destroyer, Boy Erased and Aquaman, and for opening opportunity or women in production. | Enwebwyd | [2] |
Costume Designers Guild Awards | 19 Chwefror 2019 | Excellence in Sci-Fi/Fantasy Film | Kym Barrett | I'w benderfynu | [3] |
Dorian Awards | 12 Ionawr 2019 | Campy Film of the Year | Aquaman | Enwebwyd | [4] |
Make-Up Artists and Hair Stylists Guild Awards | Chwefror 16, 2019 | Best Special Make-Up Effects | Justin Raleigh, Ozzy Alvarez, Sean Genders | I'w benderfynu | [5] |
Visual Effects Society Awards | February 5, 2019 | Outstanding Created Environment in a Photoreal Feature | Quentin Marmier, Aaron Barr, Jeffrey De Guzman, Ziad Shureih for "Atlantis" | I'w benderfynu | [6] |
Outstanding Virtual Cinematography in a Photoreal Project | Claus Pedersen, Mohammad Rastkar, Cedric Lo, Ryan McCoy for "Third Act Battle" | I'w benderfynu |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.imdb.com/title/tt1477834/fullcredits/?ref_=tt_ov_st_sm
- ↑ "2018 EDA Award Nominees". Alliance of Women Film Journalists. December 20, 2018. Cyrchwyd 10 Ionawr 2019.
- ↑ Pedersen, Erik (10 Ionawr 2019). "CDGA Nominations: 'Crazy Rich Asians', 'Black Panther' Among Pics Fitted For Costume Designers' List". Deadline Hollywood. Cyrchwyd 10 Ionawr 2019.
- ↑ Kilkenny, Katie (3 Ionawr 2019). "'The Favourite,' 'Pose,' 'Killing Eve' Lead Dorian Award Nominations". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 10 Ionawr 2019.
- ↑ Pedersen, Erik (10 Ionawr 2019). "Make-Up Artists & Hair Styling Guild Applies Its Awards Nominations". Deadline Hollywood. Cyrchwyd 10 Ionawr 2019.
- ↑ Hipes, Patrick (15 Ionawr 2019). "VES Awards Nominations". Deadline Hollywood. Cyrchwyd 15 Ionawr 2019.