Cân werin Gymraeg yw Ar Hyd y Nos, sy'n cael ei chanu i hen alaw a gofnodwyd am y tro cyntaf yn y gyfrol The Musical and Poetical Relics of the Welsh Bards (1784) gan Edward Jones (Bardd y Brenin). Ysgrifennodd John Ceiriog Hughes y geiriau Cymraeg. Mae hi wedi'i chyfieithu i sawl iaith, gan gynnwys y Saesneg.

Bachgen yn canu 'Ar Hyd y Nos': taflen gerddoriaeth o tua dechrau'r 19eg ganrif

Defnydd

golygu

Mae'r gân yn cael ei chynnwys yn Fantasia on British Sea Songs ar Noson Olaf y Proms, i gynrychioli Cymru.

Defnyddiwyd yr alaw gan John Gay yn The Beggar's Opera.

Mae'r gân yn boblogaidd iawn gyda chorau meibion Cymreig traddodiadol, ac wedi'i chanu ganddynt mewn gwyliau yng Nghymru a ledled y byd.

Geiriau

golygu
Cymraeg

Holl amrantau'r sêr ddywedant
Ar hyd y nos
Dyma'r ffordd i fro gogoniant
Ar hyd y nos.
Golau arall yw tywyllwch
I arddangos gwir brydferthwch
Teulu'r nefoedd mewn tawelwch
Ar hyd y nos.

O mor siriol, gwena seren
Ar hyd y nos
I oleuo'i chwaer ddaearen
Ar hyd y nos.
Nos yw henaint pan ddaw cystudd
Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd
Rhown ein golau gwan da'n gilydd
Ar hyd y nos.

Saesneg

Sleep my child and peace attend thee,
All through the night
Guardian angels God will send thee,
All through the night
Soft the drowsy hours are creeping
Hill and vale in slumber steeping,
I my loving vigil keeping
All through the night.

While the moon her watch is keeping
All through the night
While the weary world is sleeping
All through the night
O'er thy spirit gently stealing
Visions of delight revealing
Breathes a pure and holy feeling
All through the night.

Dylid nodi y nad cyfieithiad o'r geiriau Cymraeg yw'r geiriau Saesneg: fe'u hysgrifennwyd gan Sir Harold Boulton ym 1884, ac fe'u rhigymwyd i'r un alaw. Mae'r fersiwn dilynol yn agosach yn Saesneg i'r fersiwn Cymraeg:

All the star's eyelids say,
All through the night,
"This is the way to the valley of glory,"
All through the night.
Any other light is darkness,
To exhibit true beauty,
The Heavenly family in peace,
All through the night.

O, how cheerful smiles the star,
All through the night,
To light its earthly sister,
All through the night.
Old age is night when affliction comes,
But to beautify man in his late days,
We'll put our weak light together,
All through the night.

Amrywiadau

golygu

Mewn fersiwn Saesneg arall, dirprwyir yr ail bennill gan:

Angels watching ever round thee
All through the night
In thy slumbers close surround thee
All through the night
They will of all fears disarm thee,
No forebodings should alarm thee,
They will let no peril harm thee
All through the night.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cyfieithiad Saesneg Ar Hyd y Nos