Edward Jones (Bardd y Brenin)

cyfansoddwr a aned yn 1752

Telynor enwog oedd Edward Jones ("Bardd y Brenin") (Mawrth 1752 - 18 Ebrill 1824). Roedd yn frodor o blwyf Llandderfel, Meirionnydd (Gwynedd).[1]

Edward Jones
FfugenwBardd y Brenin Edit this on Wikidata
Ganwyd29 Mawrth 1752 Edit this on Wikidata
Llandderfel Edit this on Wikidata
Bu farw18 Ebrill 1824 Edit this on Wikidata
Marylebone Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhanesydd, cyfansoddwr, cyhoeddwr, telynor Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Bardd y Brenin ar fferm yr Henblas, Llandderfel, yn yr hen Sir Feirionnydd yn blentyn i John Jones a Jane ei wraig. Roedd yn dod o deulu cerddorol, roedd ei dad yn cannu'r delyn y crwth a nifer o offerynnau eraill; bu Robert, brawd Bardd y Brenin yn organydd cyflogedig yn Eglwys Sant Chad yr Amwythig. Roedd brawd arall iddo, Thomas, hefyd yn delynor poblogaidd yn Llundain. [2]

Symudodd Edward Jones i Lundain dan nawdd Gwyneddigion Llundain. Trwy'r Gwyneddigion cafodd ei gyflwyno i gylch o foneddigion Cymreig a Seisnig yn y ddinas. Dechreuodd rhoi gwersi cerddorol a datganiadau preifat i nifer o'r teuluoedd urddasol hyn.[3] Cyn bo hir daeth y teulu brenhinol i wybod am y cerddor dawnus. Ym 1783 fe'i penodwyd yn delynor i George Augustus Frederick, Tywysog Cymru. Pan ddaeth y tywysog yn Frenin Siôr IV ym 1820, dechreuodd Edward Jones galw ei hun "Bardd y Brenin".[4] (Roedd Jones yn defnyddio'r term "bardd" mewn ffordd ehangach na'i defnydd presennol. Roedd yn credu bod y term bardd yn cwmpasu'r sawl oedd yn hyddysg mewn unrhyw un o gelfyddydau'r hen dderwyddon gan gynnwys cerddoriaeth.[5])

Cymerai Bardd y Brenin diddordeb mawr mewn cerddoriaeth draddodiadol o bob parth o'r byd. Ym 1804 cyhoeddodd Lyric Airs, casgliad o gerddoriaeth oedd yn cynnwys tonnau o wlad Roeg, Albania, Walachia, Twrci, Arabia, Persia, a Tsieina. Yn 1813 cyhoeddodd Terpsichore's Banquet oedd yn cynnwys cerddoriaeth Sbaen, Rwsia, Sweden, ac Armenia.

Gwaith mwyaf Bardd y Brenin oedd ei gasgliadau o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Casglodd nifer o'r caneuon trwy ofyn i bobl yng Nghymru a Llundain i ganu hen ganeuon ac alawon iddo ac yna eu cofnodi ar bapur. Bu hefyd yn gwneud ymchwil mewn amgueddfeydd a llyfrgelloedd. Cyhoeddodd ei gasgliad o alawon Cymreig mewn tair cyfrol:[6]

  • The Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784)
  • The Bardic Museum (1802)
  • Hen ganiadau Cymru (1820)

Bu Bardd y Brenin yn rhan o'r cyfarfod cyntaf o Orsedd y Beirdd ar Byn y Briallu, Llundain ym 1792.

Marwolaeth

golygu
 
Henblas, Llandderfel gan Kelt Edwards

Cafodd Bardd y Brenin ffit yn ei gartref yn Marylebone, Middlesex, a bu farw deuddydd wedyn ar 18 Ebrill 1824. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Marylebone.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "JONES, EDWARD ('Bardd y Brenin'; 1752 - 1824), telynor, trefnydd a chyhoeddwr cerddoriaeth i'r delyn, casglwr a chyhoeddwr hen benillion, alawon cenedlaethol, a chyfieithiadau i'r Saesneg, hanesydd llenyddiaeth Gymraeg ac offerynnau cerdd y Cymry, casglwr llawysgrifau a hynafiaethydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-09-20.
  2. "Jones, Edward [called Bardd y Brenin] (1752–1824), harpist and music antiquary". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/14997. Cyrchwyd 2022-09-20.
  3. Hynafiaethau Edeyrnion—Edward Jones (Bardd y Brenin) ar Wicidestun
  4. Davies, Owen Humphrey (Awst 1894). "Geiriadur Bywgraffyddol A Beirniadol O Gerddorion Ymadawedig Cymru; Jones (Edward), Bardd y Brenin". Yr Haul neu, drysorfa o wybodaeth hanesiol a gwladwriaethol (Caerfyrddin: Spurrell) Cyf. X rhif. 116: 258. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2785689/2794830/15#?xywh=-417%2C-377%2C4593%2C3029.
  5. Ellis, Tecwyn (Gaeaf 1967). "Bardd y Brenin, Iolo Morganwg a Derwyddiaeth". Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyf. 15, rh. 2: 177. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1277425/1283175/66#?xywh=-1703%2C-103%2C6557%2C4325.
  6. Roberts, Thomas Rowland; Williams, Robert (1908). "Edward Jones Bardd y Brenin" - Eminent Welshmen a short biographical dictionary of Welshmen who have attained distinction from the earliest times to the present. Cardiff & Merthyr Tydfil : The Educational Publishing Company, Ltd.