Ar lan y môr (cân)
Cân werin draddodiadol yw Ar lan y môr,[1] sy'n gân serch. Ceir ffurfiau amrywiol o'r gân (alaw a geiriau fel ei gilydd). Mae'r fersiwn o'r geiriau isod yn dod o'r gasgliad Caneuon Traddodiadol y Cymry.[2]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
---|---|
Cyhoeddwr | Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1937 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geiriau
golyguAr lan y môr mae rhosys cochion,
Ar lan y môr mae lilis gwynion,
Ar lan y môr mae 'nghariad inne
Yn cysgu'r nos a chodi'r bore.
Ar lan y môr mae carreg wastad
Lle bûm yn siarad gair â'm cariad;
O amgylch hon fe dyf y lili
Ac ambell gangen o rosmari.
Ar lan y môr mae cerrig gleision,
Ar lan y môr mae blodau'r meibion,
Ar lan y môr mae pob rinwedde,
Ar lan y môr mae 'nghariad inne.
Tros y môr y mae fy nghalon,
Tros y môr y mae f'ochneidion,
Tros y môr y mae f'anwylyd
Sy'n fy meddwl i bob munud.
Llawn yw'r môr o swnd a chregyn,
Llawn yw'r wy o wyn a melyn,
Llawn yw'r coed o ddail a blode
Llawn o gariad merch wyf inne.
Alawon
golygu1. CAGC (1937) 3 t.125
2. CAGC (1937) 3 t.126
3. Folksongs of Britain and Ireland t.137[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cylchgrawn Alawon Gweryn Cymru 3 (1937):125-6; 4 (1948):36-7
- ↑ Caneuon Traddodiadol y Cymry, gol. Arfon Gwilym, Menai Williams a Daniel Huws (Penygroes: Cwmni Cyhoeddi Gwynn, 2006), t.8
- ↑ Folksongs of Britain and Ireland, gol. P Kennedy (London: Oak Publications, 1975), t.137