Kenneth Bowen
Canwr tenor, arweinydd ac athro o Gymro oedd Kenneth John Bowen (3 Awst 1932 – 1 Medi 2018).[1]
Kenneth Bowen | |
---|---|
Ganwyd | Kenneth John Bowen 3 Awst 1932 Llanelli |
Bu farw | 1 Medi 2018 Cheltenham |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arweinydd, athro, canwr, canwr opera |
Cyflogwr | |
Math o lais | tenor |
|
|||||
Yn cael trafferth gwrando ar y ffeil? Gweler Cymorth - sain. |
Ganwyd Bowen yn Llanelli. Gwnaeth ei radd BA ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth a gradd MA cerddoriaeth yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt.
Yn y 1960au enillodd nifer o wobrau cerdd a pherfformiodd ar lwyfannau yng Nghymru, Lloegr ac ar draws y byd. Bu'n perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn gyson gyda chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, y Royal Opera a'r English National Opera. Rhwng 1987 a 1981 roedd yn bennaeth ar Astudiaethau Llais yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Ymddeolodd o waith llawn amser yn 1988. Rhwng Chwefror 1983 a Rhagfyr 2008 roedd yn Gyfarwyddwr Cerdd Corâl Cymru Llundain.[2]
Yn 2003 cafodd radd anrhydeddus o Ddoethur mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol Cymru.
Bywyd personol
golyguPriododd Angela Mary yn 1959 a chawsant ddau fab.[1] Mae ei fab Geraint yn gyd-gyfarwyddwr artistig y Three Choirs Festival yn Lloegr. Mae ei fab Meurig yn ysgrifennu am gerddoriaeth, ac yn gyn-gyfarwyddwr Gŵyl Gerdd Cheltenham.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 International Who's who in Music and Musicians' Directory: (in the Classical .... Adalwyd ar 2 Medi 2018.
- ↑ Marw'r tenor Kenneth Bowen , BBC Cymru Fyw, 2 Medi 2018.